Emlyn, yn fab i'w nith, ac y mae crybwylliad am dani yn yr ewyllys. Wyr i'r nith hòno yw D. Pugh, Ysw., Manorafon, diweddar A.S. dros sir Gaerfyrddin. Mae llawysgrifau Mr. Lewes yn y Gronfa Brydeinig. Mae son aml am achlyfr y Faerdref, ac y mae yn debyg ei fod yn awr ym mhlith llyfrau W. L. yn y Gronfa Brydeinig.
LEWIS, David, M.D., a aned yn Nantmedd, Llanfair Clydogau, yn 1783. Dygwyd ef i fyny gyda'i dad cu, yn y Caegwyn, Llanbadarn Odwyn. Bu yn yr ysgol yn Llangeitho, ac wedi hyny yn Ystrad Meirig. Tua deuddeg oed, efe a aeth i Lundain at ei dad, yr hwn oedd feddyg enwog yn Lower Brook-street. Bu yn yr ysgol yno, lle y gelwid ef, gan gywion Seison yn "Welsh Nanny Goat." Am y sarhâd hwn, efe a darawodd un o honynt un boreu, a bu llys ysgol arno am hyny, a chafodd ei ganmol gan yr athrawon am ei wroldeb; ac o hyny allan, cafodd lonyddwch. Dechreuodd ei efrydiaeth feddygol gyda'i dad. Breintweisiwyd ef yn Neuadd yr Apothecari, ac aeth i Yspytty Westminster, lle y daeth yn llawfeddyg y ty. Ymunodd â'r llynges dan y Llyngesydd Cochrane, ac aeth i'r Llychlyn. Cafodd ym mhen ychydig ei wneyd yn llawfeddyg y llynges, dan Syr James Jamieson, lle y rhewodd y llynges am gryn amser. Ar ol dyohwelyd i Brydain, aeth ffwrdd gyda'r llynges i Ddeheudir America am tua thair blynedd. Bu hefyd yn Sierra Leone, yn Affrica. Bu gyda'r llyngfes am 13 o flynyddau. Dychwelodd i Gymru, ac arosodd am ennyd yn y Glyn Isaf, Llangeitho; ac wedi hyny yn Aber Meirig. Yr oedd ganddo yma was, yr hwn oedd fab i dywysog Affricanaidd, yr hwn a fedyddiwyd yn "John Cardigan." Symmudodd i Dref Hedyn, Emlyn, tuag 1820. Priododd yn 1822 â Miss Howell, merch henaf John Howell, Ysw., Morfa, hanedig o deulu hynafol Cadifor Fawr, Arglwydd Blaencych. Bu yn Emlyn hyd 1849, ac wedi hyny yn Nant Popty hyd 1849. Symmudodd wedi hyny i'w blasdy ei hun, Bron Aeron, yn Nyffryn Aeron. Bu farw Hydref 1, 1861, yn 78 oed. Yr oedd Mr. Lewis yn sefyll yn uchel iawn fel meddyg, a chyflawnodd lawer gorchest feddygol ag oedd yn syndod i'r dosbarth mwyaf deallus. Talai