Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/167

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Rhiw Fer, Cwm Bychan, a llawer ereill trwy y wlad, yn perthyn i Mr. Lewis ; ac y mae rhai teuluoedd yn disgyn ohono.

(1)Cyhoeddodd D. Lewis y Flores Poetarum Britannicorum, sef Blodeoog Waith y Prydyddion Brytanaidd, o gasgliad J. D.,SS. Th., fal yr ydys yn tebygu. Mae y llythyr at y darllenydd wedi ei ddyddio yn Llanllawddog, Gor. 10, 1710. Mae ynddo gywydd ar Ddyoddefaint Crist, gan D. L. Cyhoeddodd hefyd Golwg ar y Byd, gydag amryw lyfrau ereill. Yr oedd yr hen wr yn tueddu at fod yn ofergoelus, fel y dengys ei Hanes Bwci yn Mhlwyf Llangeler, ac un arall yn Rhos y Corn. Mae D. Lewis,Ysw., Ystradau, yn disgyn o hono. Nid ydym yn sicr mai yng Ngheredigion y ganed ef.

LEWIS, JOHN, oedd fab Jenkin Lewis o Dalsarn, plwyf Trefilan. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ysgol enwog Castell Hywel, dan y Parch. D. Davis. Cyrhaeddodd wybodaeth gyfrifol o'r ieithoedd hen a diweddar, yn neillduol o'r Roeg. Ymunodd pan yn ieuanc a'r Wesleyaid, a dechreuodd bregethu o ddeutu 1812. Bu yn gweinidogaethu yng nghylchdaith Dolgellau yng ngwanwyn 1813. Yn 1814, derbyniwyd ef i'r weinidogaeth reolaidd, a phenodwyd ef i fyned yn genadwr i'r India Orllewinol, o dan arolygiaeth y Parch. Thomas Coke, LL.D., o Aberhonddu. Cychwyn- odd o Falmouth, Rhagfyr 25, 1814, a thiriodd yn Ynys Barbadoos Chwefror 1815, ac ym mhen pum niwrnod yn Antiqua. Yr oedd y Parch. Thos. Morgan, Cymro genedigol o Aberafon, Morganwg, yn llafurio yno yn flaenorol Gan fod llawer o'r Isellmyn, Portugaliaid, a Ffrancod yn yr ynys, penderfynodd wneyd ei hun yn adnabyddus au hieithoedd. Yn 1816, penodwyd ef i Spanish Town, Jamaica, lle bu farw Gorphenaf 17, 1816.

LEWIS, JOHN, o Lanfechan a'r Ffwrneithin, & osodir allan yn fardd gan yr achlyfrau; ond ni welsom, hyd a wyddom, linell o'i waith. Blodeuai tua chant a banner o flynyddau yn ol.

LEWIS, JOHN, diweddaf beriglor Llanrhystud, a aned ym mhlwyf Llangwyryfon. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ystrad Meirig, a'i urddo yn ddiacon gan Esgob Ty Ddewi, yn 1823, ac yn offeiriad yn y flwyddyn ganlynol. Bu yn gweinidogaethu fel curad yn Henfynyw, a'r eglwysi ereill yn y gymmydogaeth. Cafodd Llanrhystyd yn y flwyddyn 1843. Bu yn dra gweithgar yn ei blwyf. Ni bu offeiriad erioed yn cael ei garu yn fwy gan ei blwyfolion: yr oedd yn gyfangwbl yn y weinidogaeth: yr oedd yn bregethwr hwylus, a byddai yn fynych yn myned i'r hen hwyl Gymreig, yn neillduol pan wrth fwrdd y Cymmun. Adeiladodd Eglwys newydd ysblenydd; ac y mae hono yn cael ei llanw gan gynnulleidfa barchus. Byddai yn arfer cynnal cyfarfod Blynyddol yn yr Eglwys, yr hwn oedd