gynnulliad mawr, lle y delai yng nghyd offeiriaid enwocaf y Dywysogaeth. Yr oedd Mr. Lewis yn un o offeiriaid ffyddlonaf ac enwocaf y wlad. Cafodd ergyd marwol gan y parlys, a bu farw yn ddisymmwth Rhagfyr 21, 1862.
LEWIS, THOMAS, a breswyliai yng Nghastell Hywel, a chyn hyny yn yr Ynys Wen, plwyf Llanegwad, a dybir oedd o Lewisiaid Dinas Cerdin, ond nid oes digon o sirwydd. Cyhoeddodd lyfr o'r enw Caniadau Duwiol, yr hwn a argraffwyd yng Nghaerfyrddin, gan Ioan Daniel, yn y flwyddyn 1795.
LLAWDDEN, Arglwydd Uwch Aeron, oedd un o bendefigion enwocaf y Deheudir yn y degfed canrif. Ei wraig oedd Lleuci, ferch Gruffydd, tywysog Cymru.
LLIO LLWYD oedd ferch Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Ogerddan, yr hon oedd yn ddiarebol am ei glendid a'i buchedd dda. Mae gan Dafydd Nanmor gywydd ardderchog iddi, yn yr hwn y mae y llinellau anfarwol-
“Ai plisg y gneuen wisgi,
Ai dellt aur yw dy wallt di?”
Yr oedd yn chwaer i Ieuan ab Rhydderch Llwyd.
LLOYD, CHARLES, LL.D., oedd fab y Parch. D. Llwyd, Brynllefrith, gweinidog yn Llwyn Rhyd Owain. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Athrofa Caerfyrddin, ac wedi hyny yn Llundain. Bu yn gweinidogaethu gyda'r Bedyddwyr Rhyddfrydig yn swydd Norffolc, ac wedi hyny yn Llundain gyda'r Undodiaid. Bu yn cadw ysgol enwog yn Llundain. Cyhoeddodd Autobiography of a Dissenting Minister, yr hwn a ystyrid yn waith o gryn deilyngdod, a c y mae amryw argraffiadau o hono wedi dyfod allan; ac ysgrifenodd hefyd erthyglau galluog i'r Monthly Repository, hen gyhoeddiad Undodaidd, megys cofiannau D. Siencyn Rhys, a'r Parch. T. Thomas, mab Llanfair, a phethau ereill. Clywsom iddo ysgrifenu rhywbeth ar yr iaith Gymreig, yr hwn a anghymmeradwyai y Parch. D. Davis, Castell Hywel; ond nis meddwn fanylion. Efe fu a'r llaw flaenaf yn adeiladu capel Pant y Defaid, un o'r capeli Undodaidd cyntaf yn y sir. Bu farw Mai 23, 1829, yn