63 oed. Mae cof-faen hardd iddo yn Eglwys blwyfol Llanwenog.
LLOYD, CHARLES, Barwnig, Maes y Felin, Llanbedr, oedd ail fab Syr Francis Lloyd. Cafodd Syr Charles ei wneyd yn Farchog gan William III., ac yn Farwnig gan y Frenines Ann, Ebrill 10, 1708. Bu yn briod ddwywaith; y tro cyntaf â Jane, merch Morgan Llwyd o'r Green Grove; yr ail waith â Frances, merch Syr Francis Cornwalis. Bu yn aelod seneddol dros Aberteifi, ac yn sirydd dros Ceredigion yn 1689, a thros sir Gaerfyrddin yn 1716. Bu farw Rhagfyr 28, 1723.
LLOYD, DAVID, Brynllefrith, gweinidog Henadurol yn Llwyn Rhyd Owain, a pherchenog Coedlanau Fawr, plwyf Llanwenog, oedd yn hanu yn gywir o Lwydiaid Castell Hywel. Bu yn yr ysgol gyda Job Evans, athraw dysgedig a breswyliai ym mhlwyf Llanwenog, ac wedi hyny yng Nghaerfyrddin. Urddwyd ef yn Llwyn Rhyd Owain yn y flwyddyn 1742, yn olynwr i'w ewythr, Jenkin Jones Mam D. Llwyd oedd Esther, merch John Jenkins, yr hon oedd yn chwaer i Jenkin Jones. Y mae o'n blaen weithred priodas Richard Llwyd ac Esther Jenkins, dyddiedig 1725. Cymmerodd Jenkin Jones enw bedydd ei dad yn gyfenw, yr hyn beth oedd gyffredin y pryd hyny. Mae o'n blaen enwau pump.o blant D. Llwyd-Richard, John, Dafydd, Charles, a Margaret: ond dichon fod ganddo ragor. Bu Richard farw yn ddiepil. Daeth Coedlanau, trwy werthiad, neu ewyllys brawd arall, feddyliwn, yn feddiant i Charles Lloyd. Gwerthodd Miss Lloyd, Clapham, y lle wedi hyny i'r Parch. Charles Lloyd, Waun Ifor, yr hwn foneddwr oedd o'r un tylwyth. Yr oedd D. Llwyd yn Arminiad pell, os nid ym mhellach. Yr oedd yn wr doniol, dysgedig, a hawddgar, ac felly yn dra pharchus yn ei wlad. Yr oedd hefyd yn fardd gwych. Dygodd allan Hymnau ei dad yng nghyfraith yn y flwyddyn 1768. Cyhoeddwyd ei brydyddiaeth dan yr enw Gwaith Prydyddol y Diweddar Barchedig Dafydd Llwyd, Gweinidog Eglwys Llwyn Rhyd Owain, Sir Aberteifi. Argraffwyd ef gan John Daniel, Caerfyrddin, 1785. Dywedir i'w lyfrau a'i bapyrau gael eu cymmeryd gan un o'r teulu i America.