Cymru yn y cynoesoedd. Daeth Cadifor yn enwog fel rhyfelwr o dan Rhys ab Gruffydd, Tywysog y Deheudir, neu fel y galwai y Seison ef, "Lord Rees." Yr oedd Cadifor hefyd yn gefnder i'r tywysog. Yr un o'r amser- oedd mwyaf dychrynllyd, ond eto yn ogoneddus, pan gasglodd Harri II., Brenin Lloegr, holl bigion milwyr ei deymas, yn gystal ag o Normandi, Fflanders, Angyw, Gwasgwyn, Guien, a'r Alban, ar gyfer llwyr ddyfetha cenedl y Cymry, a'u dilëu o'r wlad, yr oedd y brenin yn gwersllu yn agos i Groes Oswallt. Ar yr adeg ofnadwy hon, ymunodd y Cymry yn well nag erioed. Owain Gwynedd, a'i frawd Cadwaladr, Rhys ab Gruffydd, Owain Cyfeiliawg, a lorwerth Goch, a meibion Madawg ab Idnerth, a aethant i'w erbyn i ardal Corwen. Y brenin wrth weled yr undeb gogoneddus hwn, a giliodd i fynydd Berwyn; ac yno cafodd ei warchae mor galed gan y Cymry, a chan ystormydd o wlaw a tharanau, a orfu encilio gyda gwarth a cholled i Loegr. Ar ol dychwelyd, cyflawnodd un o'r gweithredoedd mwyaf dieflig a geir nemawr mewn hanes, sef dilygeidio Cadwallawn a Chynfrig, dau fab Owain Gwynedd, a Meredydd, mab yr Arglwydd Rhys, ac ereill Yn yr amser ofnadwy hwn, daeth Cadifor ab Dinawol i enwogrwydd. Yr oedd yn bresennol yn y frwydr hono ger y Berwyn; ac wedi dychwelyd i'r Deheudir, ymosododd, o dan ei dywysog a'i gefnder, ar Gastell Aberteifi, yr hwn ydoedd wedi ei drawsfeddiannu gan y Normaniaid a'r Fflandrysiaid, ac a'i cymmerodd. Ar ol yr orchest hon, cafodd ei greu gan ei dywysog yn Arglwydd Castell Hywel, Pantstreimon, a'r Gilfach Wen; a chafodd Cathrin, merch y tywysog, yn wraig. Ar ol hyn, cartrefodd yng Nghastell Hywel, ym mhlwyf Llandyssul. Yn sefydliad Cadifor ab Dinawol yng Nghastell Hywel, yr ydym yn cael planiad un o'r coedydd achyddol mwyaf cangenog yng Ngheredigion, os nid yn Neheudir Cymru. Oddi yma yr hanodd teuluoedd y Llwydiaid braidd uwch law cyfrif; megys Gallt yr Odyn, Pantstreimon, Gilfach Wen, Ffoshelyg, Dyffryn Llynod, Ffosesgob, Gwernmacwy, Llanllŷr, Llanfechan, Mynydd Hywel, Maes y Felin, Ffynnon Bedr, Crynfryn, Bronwydd, Berllan Dywell, yng nghyd â'u holl
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/17
Gwirwyd y dudalen hon