Pat. 19 Eliz.
pars 2m 27
"1577. 16 May. The Queen upon surrendry of Letters Patents made 10 Jan. reg. 8, to Robert Lougher Dr. of Law for the office or room of reading the Civil Law Lecture in Oxford with ye yeerlie fee of 40lb. granteth the same to her lovinge subject Griffith Lloide Doctor of Law and Student in the university of Oxford T. R apud. West. Sexto die Maii."
Bu am ryw amser yn aelod Seneddol dros Aberteifi.
LLOYD, GWILYM, o Gastell Hywel, oedd y chwechfed disgynydd o Gadifor ab Dinawol. Efe oedd y cyntaf o'r teulu a gymmerodd y cyfenw Llwyd.
LLOYD, GWION, oedd ail fab Llewelyn Llwyd o Gastell Hywel. Ei wraig oedd Gwenllian, merch Hywel ab Siencyn ab Rhys ab Dafydd, o Flaentren. Efe oedd sylfaenydd ben deulu Llanfecban. Hanai y diweddar Uchgadben Evans, Dolau Bach, o hono ef.
LLOYD, HERBERT, Barwnig, o Ffynnon Bedr, oedd yr olaf o'r Llwydiaid a breswyliodd yn y lle hwnw. Yr oedd yn fab i Walter Lloyd, Ffynnon Bedr. Bu Syr Herbert yn cynorychioli bwrdeisdrefi Ceredigion o 1760 hyd 1768. Cafodd ei wneyd yn farwnig gan Sior III., Ionawr 26, 1763. Dywedir i'r anrhydedd hon gael ei rhoddi iddo o herwydd cynnrychioli anerchiad bwrdeisdrefi Ceredigion i'w Fawrhydi ar ei esgyniad i'r orsodd. Yr oedd Syr Herbert yn byw ym mhob modd mewn dull tywysogaidd. Yr oedd Ceredigion, i raddau pell iawn, dan ei lywodraeth. Rhywfodd, yr oedd yn llwyddo i gael yr etholiadau wrth ei ewyllys, ac yr oedd ei ddylanwad ym mhell iawn yn y brawdlysoedd. Byddai yn myned i Aberteifi yn ei gerbyd a thorf fawr o "wŷr Llanbedr" yn ei amgylchu, gan ddwyn arfau o ffyn derw mawrion. Clywsom lawer gwaith fod ffyn gwŷr Llanbedr megys gallt dderw yn ymsaethu i fyny i nen neuadd y dref. Yr oedd yn lled unbenol yn ei rwysg; eto i gyd yn dra derbyniol gan y werin. Bu yn briod ddwywaith; y tro cyntaf â bonedd. iges Seisonig o'r enw Miss Bragge, a'r ail waith ag Ann, merch W. Powell, Nant Eos, a gweddw R. Stedman, Ystrad Fflur. Bu farw yn Llundain, Awst 19, 1769, .