chladdwyd ef yn y nos, Medi 3, yn Llanbedr, gyda rhwysg mawr.
LLOYD, HUGH, oedd ail fab Dafydd Llwyd o Gastell Hywel. Efo oedd y cyntaf o'r teulu a breswyliodd yn Llanllyr. Bu yn sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 1567.
LLOYD, HUGH, D.D., a aned ym Mhorth Rhys, rhwng Llanrhystud ac Aberystwyth, yn y flwyddyn 1589. Aeth i Goleg Oriel, Rhydychain, yn 1607, lle y cafodd ei raddio yn y celfyddydau; ac ar ol hyny, efe a symmudodd i Goleg Iesu, o'r hwn y daeth yn gymmrawd. Cymmerodd ei radd o D.D. yn 1638, pan yn Rheithor Llangadog ac Archiagon. Ty Ddewi. Yn amser y gwrthryfel mawr, efe a ddyoddefodd lawer yn achos y brenin, trwy gael ei ddifeddiannu o'i fywoliaeth, gan orfod symmud o le i lo am ddiogelwch. Cafodd ei gyssegru yn Esgob Llandaf, Rhagfyr 2, 1660, gan Archesgob Caerefrog, Esgobion Llundain, Caergraig, Caersallog, a Chaerwrangon, pan y cyssegrwyd chwech ereill o esgobion. Bu farw yn 1667.
LLOYD, HUGH, diweddar Rheithor Llangeitho, a aned ym Mhen y Wern, plwyf Cilcenin, yn y flwyddyn 1768. Enwau ei rieni oedd Richard ac Ann Llwyd. Yr oeddynt yn bobl grefyddol a pharchus, yn berchen amryw leoedd eu hunain. Addysgwyd Mr. Llwyd yn Ysgol Ystrad Meirig, dan y Parch. John Williams. Aeth wedi hyny i gadw Ysgol Ramadegol Aberteifi ; a chyn hir, cafodd hawlfraint curad yno, a'i urddo tua 1791, yn Abergwili, gan yr Esgob Horsley, i'r hwn y talai barch mawr trwy ei oes. Parhaodd i gadw ysgol yn Aberteifi am ryw amser. Priododd Tachwedd 19, 1796, ag Esther, merch benaf John Morgan, Ysw., Cilpill, ac aeth yno i gyfanneddu hyd ei farwolaeth, Ionawr 2, 1837. Bu yn gwasanaethu Llanpenal fel curad parhaus. Cafodd wedi hyny guradiaath Llanddewi Brefi; a chyn hir bersoniaeth Llangeitho. Bu trwy ei ddawn a'i ddiwydrwydd yn offerynol i gasglu cynnulleidfaoedd lluosog i'r manau a nodwyd. Yr oedd ei bregethau yn gyffredin yn dair rhan, a'r rhai hyny agos yn gyhŷd, ei destyu yn cael ei egluro yn fanol a beirniadol; codai amryw gangenau oddi wrth y testyn yn dra naturiol; addysgiadau cymhwysiadol ac effeithiol. Yr oedd o