Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/177

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

merch Syr Issac le Hoop, a derbyniodd ganddi yn waddol y swm o 80,000p. Daeth hefyd i feddiant o ystâd hyfryd Maes y Felin, trwy ewyllys ei frawd yng nghyfraith, Syr Lucius Christianus Lloyd. Bu farw yn ddietifedd. Dywedir fod y Brenin Sior II. yn bwriadu ei ddyrchafu i'r farwniaeth, wrth yr enw o Arglwydd Bryn Hywel, enw hen lys arglwyddi Llanbedr, pe buasai byw ychydig yn hwy. Dywedir hefyd fod Mrs. Lloyd yn forwyn o anrhydedd yn llys ei Fawrhydi. Dilynwyd ef yn yr etifeddiaeth helaeth gan ei frawd, Syr Herbert Lloyd.

LLOYD, JOHN, o'r Crynfryn, oedd foneddwr cyfoethog a dylanwadol yn amser Siarl I. Cymmerodd blaid y brenin, a chafodd ei ddirwyo o'r swm o 140p.

LLOYD, MARMADUKE, oedd fab Thomas Lloyd, trysorydd esgobaeth Ty Ddewi, a Frances, merch Marmaduke Middleton, Ysw., a chwaer neu ferch yr Esgob Middleton,(1) o Dy Ddewi. Mae yn debyg mae efe oedd y cyntaf o'r Llwydiaid a drigfanodd ym Maes y Felin. Ei wraig oedd Mary, merch John Gwyn Stedman, Ysw., Ystrad Fflur, yr hon oedd chwaer i fam Syr John Vaughan, o'r Trawsgoed, prif ynad enwog y Dreflys Cafodd Marmaduke Lloyd ei ddwyn i fyny yn gyfreithiwr. Mae yn rhoddi ei hun ar feddfaen ei dad yn Medii Templi Socius. Daeth yn