Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/179

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un mwyach o Ystrad Meirig, ond iddo fyned i'r palas cyn cael y llythyr, ac felly i'r esgob ei gymmeryd a'i urddo. Bu am flynyddau lawer yn gurad diwyd yn Yspytty Ifan. Cafodd fywoliaeth Bettws Garmon rhyw gymmaint cyn ei farwolaeth. Bu farw yno, a chafodd ei gladdu yn Llanbeblig, lle mae coflech ac arni y darlleniad canlynol :-

"Rev. Morgan Lloyd, Incumbent of Bettws Garmon, died Sep. 10th, 1846, aged 62 years.' "Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll. Nid oes gan hyny yn awr

ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ol y cnawd, eithr yn ol yr ysbryd."

Safai yn uchel iawn ei glod. Ysgrifenodd lawer iawn i'r Gwyliedydd, a chyhoeddodd gyfrol o bregethau yn 1830, dan yr enw Chwech ar hugain o Bregethau, a chawsant eu cyfieithu i'r Seisoneg gan y Parch. T. Jones, Creaton. Mae y Parch. J. Lloyd, Garnfach, Llanrhystud, yn nai iddo.

LLOYD, RICHARD, oedd fab y Parch. D. Lloyd, Llwyn Rhyd Owain. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Athrofa Caerfyrddin, ac wedi hyny mae yn debyg yn Llundain. Sefydlodd yn weinidog Henadurol yn Heol Awst, Caerfyrddin, yn lle y Parch. R. Gentleman, ac a symmudodd oddi yno, yn 1791, i Lwyn Rhyd Owain, i gydweinidogaethu a'r Parch. D. Davis. Bu farw Medi 27, 1797, yn 37 oed. Efe a gyhoeddodd waith prydyddol ei dad yn 1785. Cawn i Mr. Lloyd fod am ryw gymmaint yn athraw Coleg Caerfyrddin.

LLOYD, THOMAS, trydydd mab Hugh Llwyd, o Llanllyr, a ddygwyd i fyny ym Mhrifysgol Rhydychain, ac a raddiwyd yn y celfyddydau. Priododd â Frances, merch Mar- maduke Middleton. Efe a benodwyd yn drysorydd Prifeglwys Ty Ddewi, yn 1574, a chafodd oes hir i gyflawnu ei ddyledswyddau. Bu farw yn 1612, ac a gladdwyd yn y brif Eglwys. Mae ei goflech ar ochr ogleddol yr allor. Mae Mr. Basil Jones a Mr. Freeman yn rhoddi dysgrifiad o honi fel y canlyn yn eu gwaith ar Dy Ddewi: