gyssylltiadau dros yr holl wlad. Mewn hen ysgriflyfr yng Ngallt yr Odyn, ceir y traethiad a ganlyn am Gadifor :—
"Cadifor ab Dinawol, a man of great valour and couduct, had taken the castle of Cardigan from the Earl of Clare, and the Flemings, by scalado, was honoured by his prince, who was also his fìrst cousin (viz., the great Lord Rhys, Prince of South Wales), for that service with these arms (viz.), — sable, a spear's head embrued between three scaling-ladders argent, on a chief gules a castle triple-towered of the seeond. He was also rewarded with divers territories, and entitled Lord of Castell Hywel, Pantstreimon, and Gilfach Wen, in the parísh of Llandyssul, in the county of Cardigan; he married Catherin, daughter of the said Lord Rhys."
Fel y sylwa Syr S. R. Meyrick, y mae yn debyg fod y nodiad uchod wedi ei ysgrifenu yn ddiweddarach nag amser Cadifor; ond y mae yn amlwg mai ei gyfieithu o ryw ysgriflyfr Cymreig a wnawd. Yn yr amser y cymmerodd Cadifor Castell Aberteifì, yr oedd yn gadarn aruthrol, yn "Redan" y wlad, ac yn allwedd y Deheudir. Fel hyn, teg y gwnaeth y tywysog gydnabod y rhyfelwr gwrol mor anrhydeddus; ac nid rhyfedd fod y teuluoedd lluosog ar hyd y wlad yn ymffrostio yn eu pen-cenedl anrhydeddus. Cawn yn y gwaith hwn grybwyll yn aml am ddisgynyddion Cadifor; ond y mae yn gweddu i draethu yn y fan hon, i Ifor ab Cadifor ab Gweithfoed briodi Lleuci, merch Cadifor ab Dinawol, ac i Phylyb ab Ifor briodi Catherin, merch Llywelyn ab Gruffydd, yr olaf o dywysogion Cymru, Bu iddymt ferch, o'r enw Elen Goch, yr hon a briododd â Thomas ab Llywelyn, o Ddinefwr. Priododd Marged â Thudur ab Gronwy, o Ben Mynydd Mon; ac Elinor a briododd â Gruffydd Fychan, Glyndyfrdwy; ao o deulu Pen Mynydd Mon yr hanodd teulu breninol Lloegr; ac o Lyndyfrdwy yr hanodd y gwrol Owain Glyndwr. Yr oedd y boneddigion a grybwyllasom, y Mri. Bowen, o Waenifor, yn hanu mewn dwy ffordd o Gadifor ab Dinawol
CADIFOR, Abad Ystrad Fflur. Bu farw yn y fl. 1228.
CADIFOR AB GRONW ydoedd bendefig o Ceredigion,
yr hwn, yng nghyd â Hywel ab Idnerth, a Thrahaiarn ab