Yr oedd ef a Mrs. Lloyd yn nodedig am eu duwioldeb a'u gweithredoedd da. Yr oedd holl dlodion y cylchoedd yn cyrchu yno i gael bwyd a gwisgoedd, ac yr oedd yno y groesaw goreu iddynt - neb yn dychwelyd yn waglaw. Byddai offeiriaid a gweinidogion yr oes yn ymweled a'r palas, a chrefydd a daioni yn destyn yr ymddyddan. Adeiladodd Gapel y Drindod ar ei draul ei hun, a gadawodd iddo yn ei ewyllys 600p., dyddiedig Gorphenaf 2, 1795. Bu farw y bonhddwr rhinweddol hwn yn 1808. Ychwanegodd Mrs. Lloyd, yn ei hewyllys, 600p. i'r capel. Rhoddodd Mr. Lloyd y capel at wasanaeth y Trefnyddion Calfinaidd, am y barnai eu bod yn nes at yr Eglwys Sefydlodig nag un enwad arall. Bu farw Mr. Lloyd dair blynedd cyn i'r Trefnyddion ysgaru oddi wrth yr Eglwys. Rhoddodd hawl i'r Annibynwyr bregethu yng Nghapel Drindod bob mis, sef ar Sul y Cymmundeb yn Llangeitho. Dilynwyd ef yn yr etifeddiaeth gan ei fab henaf, Thomas Lloyd, yr hwn oedd yn tebygu yn fawr i'w dad mewn daioni. Efe oedd llywydd y Feibl Gymdeithas yn Nyffryn Troed yr Aur. Ei fab yntau yw Syr Thomas Davies Lloyd, Barwnig, A.S., Bronwydd.
LLOYD, WALTER, Marchog, o Lanfair Clydogau, oedd fab John Lloyd o'r un lle, a Jane ei wraig, merch Syr Walter Rice o Ddinefwr. Daeth Syr Walter yn gyhoeddus yn amser y Rhyfel Cartrefol. Yr oedd yn ysgolor gwych iawn, yn ysgrifenydd medrus, yn areithiwr hyawdl; boneddigaidd a chywir yn ei ymarweddiad, yn naturiol gymhwys i drefnu helyntion ei wlad, yr hyn a wnaeth cyn hyn gyda llawer o anrhydedd ac uniondeb. Gwasanaethodd yn Farchog dros ei wlad yn y Senedd; ond â adawodd y swydd hono ar farwolaeth Iarll Strafford. Yr oedd yn ddirprwywr gwisg; talodd gyfran-daliad yn Neuadd y Gofaint Aur, gan ymdawelu o fewn muriau ei dy. Cambrian Register, cyf. i., tud. 168.
LLOYD, WALTER, oedd orwyr y Walter Lloyd blaenorol. Ei wraig oedd Elisabeth, merch Daniel Evans o Ffynnon Bedr. Yn y modd hyn, unodd prif ddisgynyddion