deithiau mewn llyfryn chwecheiniog, a thrueni mawr na wnaeth hyny, gan i bethau droi allan fel y gwnaethent. Cafodd, yn yr haf canlynol, ei raddio yn A.C. gan y gymmanfa eglwysig Aeth i Gaergrawnt i ymofyn tudlen o Brydain a'r Iwerddon, gan gael ei siomi. Adysgrifenodd lythyrau Giraldus. Ymroddodd yn Rhydychain at barotoi i'r wasg enghreifftiau o'i lafur a'i ddiwydrwydd, yn yr Archeologia Britannica. Trwy ddiofalwch yr argraffwyr, ni ddaeth allan cyn 1707; ac ni chyhoeddwyd ond y gyfrol gyntaf: dywedir i'r ysgrifau ereill gael eu llosgi yn ddamweiniol. Gwaith rhyfeddol o lafurus a dysgedig ydyw hwn. Cafodd gydflaenoriaeth yng Ngholeg Gresham, yn 1708, er cael ei wrthwynebu yn fawr gan Dr. Woodward. Ar ddyrchafiad Mr. Caswell i broffeswriaeth mewn seryddiaeth, cafodd y swydd o brifysyllwr mewn duwinyddiaeth. Ond ni chafodd fwynhau yr ail anrhydedd hon yn hir, o blegid bu farw yng Ngorphenaf, 1709, ar ol ychydig ddyddinu o selni. Claddwyd ef yn Eglwys St. Michael, Rhydychain, yng nghladdle aelodau Coleg Iesu, ac yno y mae gweddillion un o enwogion penaf Cymru heb yr un goflech! Ond y mae y rhelyw canlynol a adawodd ar ei ol yn gofadael i'w enw yn y Philosophical Transactions:
"No. 166, Art. 8, An Account of a sort of Linum Abestinum, found in the Isle of Anglesea.. No. 200, Art. 3, A Letter to Christopher Hemmer, concerning some regularly figured stones found near Oxford. No. 208, Art. 2, Part of a Letter to Dr. Martin Lister, giving an account of locusts lately observed in Wales. Art. 3, Extract of another Letter to the same purpose, dated Feb. 20, 1693. Art. 4, An Account of the burning of several hayricks by a fiery exhalation or damp, and the infectious quality of the grass of several grounds, dated Dolgelly, Jan. 20, 1694 No. 213, Art. 15, Part of a Letter to Dr. Lister, giving some further account of the fiery exhalation in Merionethshire, dated Oxford, Aug. 23, 1694. No. 229, Part of a Letter to Dr. Tancred Robinson, concerning hail in Monmouthshire, dated Usk, 15 June, 1697, No. 250, Art. 6; No. 269, Art. 1; No. 292, Art. 1; No. 295,