MAELGWYN FYCHAN oedd fab Maelgwyn ab Rhys. Gorphenodd gastell Trefilan; a chymmerodd amryw gestyll, gan hynodi ei hun fel rhyfelwr. Ei gyfoeth yn ol cynnadledd Aberteifi dan Lywelyn ab Iorwerth oedd, cantrefi Cemmaes, Emlyn, Cilgeran, a Gwarthaf; cymmydau Hirfryn, Mallaen, Maenor Fyddfai, Gwynionydd, a Mabwynion. Ar ol cwymp y Dywysogaeth, wrth weled y wlad yn cael ei gorthrymu, cododd gwŷr Ceredigion a'r cyffiniau mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin Iorwerth I. yn 1294. Cafodd Maelgwyn ei orchfygu, a'i gymmeryd i'r carchar i Henffordd; gan gael ei lusgo i'r dienyddle wrth gynffon ceffyl anystywallt, a'i ddarnio yn bedwar darn! Cafodd dau wladgarwr arall yr un dynged. Tebyg taw Cynan ab Meredydd oedd un o honynt.
MEREDYDD AB OWAIN oedd bendefig tywysogol o Geredigion, ac yn rhyfelwr dewr. Yr oedd ym mrwydr Emlyn, lle y lladdwyd Patrig de Canton, blaenor diymddiried y Seison. Mae gan y Prydydd Bychan chwe cyfansoddiad iddo, ac un o honynt yn farwnad. Mab iddo oedd Cynan ab Meredydd. Rhoddodd lawer o gyfoeth i Fynachlog Ystrad Fflur.
MEREDYDD AB RHYS oedd fab Rhys ab Gruffydd. Yr oedd yn archiagon Ceredigion. Preswyliai yn Llanbedr, lle y bu farw yn 1226. Claddwyd ef yn Nhy Ddewi wrth ochr ei dad.
MORGAN, ABEL, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yng Nghymru, ac wedi hyny yn America, a aned yn yr Allt Goch, Llanwenog, yn 1673 Yr oedd ei dad, Morgan Rhydderch, yn frawd i'r bardd Sion Rhydderch, argraffydd yn yr Amwythig. Cafodd ysgol dda, a dechreuodd bregethu pan yn ieuanc. Ymsefydlodd ym Mlaenau Gwent yn 1697. Llafuriodd yno yn barchus a defnyddiol iawn hyd 1711, pryd y penderfynodd ymfudo i Bensylfania. Yr oedd amryw o'i gyfeillion a'i berthynasau yno yn barod. Ar yr 28fed o Fedi yn y flwyddyn hòno, aeth efe a'i deulu i'r môr mewn llong o Gaerodor; ac o herwydd gerwindeb yr hin, gorfu arnynt droi i Aberdaugleddyf, lle y buont am dair wythnos. Wedi hwylio oddi yno, gyrwyd hwy gan dymmestl i Cork, lle y buont bum wythnos yn flin eu