Morgan yn wr o alluoedd cryfion iawn, ac o fywyd tra diwyd. Nid oedd un amser yn segur. Byddai yn codi yn y boreu oriau lawer o flaen neb yn y dref, a byddai yno yn yr hwyr oriau lawer ar ol i bawb fyned i orphwys. Planodd amryw Eglwysi Annibynol o amgylch Machynlleth. Yr oedd yn sefyll yn uchel iawn fel pregethwr; yn feistr ar ei bwnc, gan daflu, fynychaf, arno oleuni newydd. Ystyrid ef y blaenaf a'r cadarnaf mewn gwybodaeth ac aidd ymneillduol o bawb trwy Gymru. Ysgrifenodd lawer iawn i wahanol gyhoeddiadau yr oes, megys y Dysgedydd, Diwygiwr, Cronicl, &c. Ei brif waith lenyddol yw Hanes yr Eglwys Gristionogol, yr hwn a ystyrid yn ymchwiliad, casgliad, a chrynodeb rhagorol o hanes yr Eglwys. Cyhoeddodd hefyd draethawd ar Ymneillduaeth, Hanes Ymneillduaeth, Esboniad ar Lyfr y Dadguddiad, yng nghyd â llawer o fan draethodau a phregethau. Mae y cyfan o waith Mr. Morgan yn dangos llawer o ymchwil a meddwl galluog. Dywedir fod anerchiad golygydd oedranus y Dysgedydd yn ei angladd yn dra effeithiol.
MORGAN, DAVID JENKIN, y cerddor enwog, a aned ym mhlwyf Llangaranog. Yr oedd ei dad yn fab i D. Morgans, Ysw., Llanborth; ond gan mai tu allan i'r fodrwy briodasol yr oedd wedi ei eni, nid oedd Siencyn Morgan ond gwr cyffredin. Yr oedd Llanborth yn hanu yn gywir o hen arglwyddi clodfawr y Tywyn, y rhai a hanent o Lywelyn Fychan o Emlyn. Yr oedd tad y cerddor yn glochydd Llangaranog, ac yn meddu llais rhagoraf o bawb yn ei oes. Efe oedd y clochydd yno yn yr amser yr.oedd y Parch. Peter Williams yn gurad y plwyf; a rhwng cerddoriaeth y clochydd a phregethau y curad, yr oedd torfeydd o wahanol barthau o'r wlad yn cyrchu i Langaranog. Dywedir nad oedd llais Dafydd yn agos cystal a llais ei dad; ond daeth y mab i ddeall y wyddor yn llawer gwell na'r tad. Ni chafodd lawer o fanteision dysg; ond ymroddodd i ddysgu ei hun mewn gwybodoeth gyffredinol, ond yn benaf mewn cerddoriaeth. Daeth yn gerddor enwog iawn, a gwnaeth fwy dros gerddoriaeth yn ei oes na neb arall yn nhair sir Dyfed, os nad yn holl Gymru. Yr ym yn cofio ei weled lawer gwaith yn y blynyddoedd