olaf o'i oes. Preswyliai pryd hyny mewn bwth bychan ym Mhen Llwyn Du, a rhwng pedwar ugain a deg oed, ac yn dwyn nodau angen ymgeledd. Yr oedd ei wraig wedi marw er ys amryw flynyddau o'i flaen. Yr oedd yn hynafgwr crefyddol, nid yn unig mewn enw, ond hefyd mewn cymmeriad. Annibynwr oedd. Rhoddwn yma sylwadau o eiddo cyfaill o gerddor ag oedd yn dra adnabyddus ag ef, sef Mr. T. Jones (Eos Gwenffrwd), Cwmcau:- "Ym mhlith cerddorion Debeudir Cymru, nid y lleiaf oedd Dafydd Siencyn Morgan, fel y profa y darnau cerddorol sydd ar gael yn bresennol o'i waith; megys y "Mercurial Anthem," "Penmaesglas," "Wellington," "New Troy," "Mwyneidd-dra," "New Town," "Cader Idris." Gweler hefyd dôn o'r enw "Horeb," ar y mesur 8. 7. 3., sef mesur 8fed yn llyfr hymnau S. R. Mae y dôn uchod wedi ei gosod i mewn gan amryw gerddorion yn eu casgliadau o donau cynnulleidfaol, heb gymmaint a chrybwylliad gan un o honynt pwy yw yr awdwr. Siaredir yn fynych am dani, a gofynir pwy yw yr awdwr -f od mwy o ganu wedi bod arni yn yr hanner canrif diweddaf yn y Dehoudir nag unrhyw dôn arall ar y mesur hwnw. Mae'r cyweirnod yn G fwyaf. Gweler Swn Addoli gan y Parch. D. Richards, Llanelli, Brycheiniog, ac hefyd mewn casgliadau ereill. Dywedodd wrthym mai efe oedd ei hawdwr, gan ychwanegu yr achlysur a achosodd iddo ddechreu y gwaith. Gan hyny, gwneler yn gyfiawn ei phriodoli iddo. Nid ydym yn crybwyll am yr holl donau melusion a pherseiniol a gyfansoddwyd gan yr hen gerddor manylgraff—dim ond ychydig.o lawer. Gellid enwi llawer yn ychwaneg na fuont argraffedig, megys "Waterloo," "Champion," "Bradford New," "Gwasanaeth," am yr hon, meddyliwn, y cafodd wobr yn Eisteddfod fawr y Trallwng. (1) Yr oedd yr hen wr yn lled falch ar y bathodyn arian, ac efe a'i cadwodd yn ei feddiant hyd ei flynyddau diweddaf; ond wifft i'r anffawd, efe a'i collodd ! Galarai am dano tra fu byw. Yr oedd D. S. M. yn hynod fanol a deallus mewn rheolau
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/190
Prawfddarllenwyd y dudalen hon