enwogrwydd mawr yn y weinidogaeth, gan y meddiannai ddoniau godidog. Nid oes hanes iddo gael manteision uchel i gyrhaedd dysgeidiaeth yn ei ieuenctyd; eto, efe a gyrhaeddodd fesur helaeth iawn o wybodaeth dduwinyddol, a dysgodd ddeall awdwyr Seisonig; ac yr oedd yn ysgrifenwr da. Yn ei wynebpryd, yr oedd yn edrych yn rhyfeddol o barchus; a phan yn ieuanc, yn hynod o lyfndeg ei wedd, ei wallt yn wineufelyn, ei lygaid yn fawrion ac yn fywiog, ei lais yn gryf, eglur, a soniarus. Daliodd tewder mawr ef pan yn ieuanc, a pharhaodd felly hyd ei farwolaeth. Dywedir taw grymusder oedd prif nodwedd ei weinidogaeth. Meddiannai ar alluoedd rhyfeddol i ddeffroi dynion cysglyd a diofal i ddianc am eu bywyd at y Gwaredwr. Dywedir ei fod yn arfer cyfansoddi llawer iawn o bregethau drwy holl ystod ei oes. Dywedai Mr. John James, Castell Newydd, am dano, ddarfod iddo ei wrando saith ugain o weithiau mewn un flwyddyn, a bod pob un o honynt yn newydd. Dengys hyn ei fod yn ddyn o feddwl bywiog a chadarn. Dywedai yr enwog Christmas Evans am dano—"Yr oedd Dafydd Morris yn bwysig a thra deffröus yn ei anerchiad at gydwybodau a serchiadau ei wrandawyr. Nid hawdd adrodd yr effeithiau oedd yn canlyn ei ddawn yn y dyddiau deffrous hyny, trwy siroedd Arfon, Mon, Dinbych, &c. Yr oedd dwysder yn nodwedd berthynol i'w ddawn, yr hwn oedd yn dra chyffrous; gellir gweled ei ddelw yn ei fab Mr. E. Morris. Dywedir fod "pregeth y Golled Fawr" yn ofnadwy o ddifrifol a chyffröus: gwaeddai allan gyda rhyw perth braidd yn annaiarol, "O! bobl y golled fawr, " nes oedd y dyrfa yn plygu mewn braw, fel coedlan o gorsenau gweinion gan dymmestl. Traddododd hefyd bregeth ryfeddol gyda nerth ag oedd yn synu pawb yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, sef, "Dyro gyfrif o'th Oruchwyliaeth. Dan y bregeth hòno, torai pawb agos yn y lle, naill i waeddi neu i wylo—i folianuu neu i weddïo. Nid oedd anystyriaeth rhai, na gwrthwynebiad ereill, yn gallu dal; toddai y calonau caletaf fel cwyr o flaen y tân; teimlai y dorf fel pe byddent o flaen y Barnwr. Teithiodd Dafydd Morris lawer trwy Dde a Gogledd Cymru; a dywedir
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/193
Prawfddarllenwyd y dudalen hon