fod son yn parhau am dano yn y Gogledd hyd heddyw - plant, wyron, a gorwyron y rhai a'i clywsant, yn son am dano - dyna anfarwoldeb enw. Dywedasom ei fod yn dew iawn, hyd yn oed pan yn ieuanc, ond parhaodd er hyny i deithio a llafurio a'i holl egni. Ni fu ei oes yn faith, ond bu yn effeithiol iawn. Yr oedd ei bregethau, pan ddeuai yn ddamweiniol drwy ardal, fel pylor yn dryllio y creigydd o galonau caletaf, a byddai gwedd newydd ar y cynnulleidfaoedd ar ol ei glywed; ie, a gwelid newidiad yn agwedd ardaloedd ar ol ei ymweliad. Yr oedd Mr. Morris yn emynwr rhagorol, a chyhoeddodd lyfr hymnau o'r enw, Can y Pererinion Cystuddiedig ar eu Taith tua Sion. Dechreua yr emyn cyntaf fel hyn:- "Mae brodyr imi aeth ym mlaen," &c. Dywedir hefyd mai efe ydyw awdwr y pennill tra chyfarwydd hwnw,- "Ar fryniau Caersalem ceir gweled," &c. Bu y dyn talentog, doniol, a gwerthfawr hwn farw yng nghanol ei ddefnyddioldeb, Medi 17, 1791, yn 47 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu tua 26 o flynyddoedd. Claddwyd ef ym mynwent Troed yr Aur. Preswyliai y rhan olaf o'i oes yn Nhwr Gwyn.
MORRIS, EBENESER, gweinidog enwog gyda'r Trefnyddion, ydoedd fab i'r enwog Dafydd Morris blaenorol. Ganwyd ef ym mhlwyf Lledrod, yn y flwyddyn 1769. Gosodwyd ef pan yn ieuanc mewn ysgol ramadegol gyda'r Parchedig Daniel Davies, curad Troed yr Aur. Cadwai Mr. Davies yr ysgol ym Mhen Bont Wnda, persondy Troed yr Aur, ar lan y Ceri. Dywedir fod Eben. Morris yn ben campwr mewn nofio ar y pryd. Yr oedd hon yn ysgol wech, ac ymddengys ei fod yntau wedi derbyn dysg yn weddol dda; eto, nid yn uchel iawn. Pan o ddeutu dwy ar bymtheg oed, aeth i ardal Trecastell, Brycheiniog, a bu yno am ryw dymmor yn cadw ysgol. Dechreuodd bregethu pan yn bedair ar bymtheg oed. Yr oedd hyn tua'r flwyddyn 1788. Aeth yn fuan ar daith gyda'r Parch. Dafydd Parry, Brycheiniog, trwy Ogledd Cymru. Ar farwolaeth ei dad, yn 1791, efe a symmudodd i'w hen gartref ym mhlwyf Troed yr Aur, pan nad oedd eto ond 22 mlwydd oed. O ran corffolaeth, nid oedd yn dal iawn,