ond o gyfansoddiad corfforol & phrydferth. Yr oedd o ymddangosiad bardd, o wynebpryd agored a theg, yn meddu ar bob cymhwysder golwg a gwedd i ennill sylw a pharch. Newidiai lawer ar ei wedd a'i lais wrth bregethu. Byddai ei lais a'i agwedd yn cael eu cymhwyso i'r dim i natur y materion fyddai yn drin. Yr oedd ei ymddangosiad yn yr areithfa yn hardd dros ben; yno y cartrefai aryddion gonestrwydd a challineb, pereidd-dra, a grym llais, a gweddusrwydd ardderchog ymadroddion. Yr oedd yn hollol amddifad o rodres a choegni. Ni wenieithai i neb; ac er mor wrol oedd ei feddwl, heb arno ofn neb, nid oedd neb yn fwy tyner nag ef at y gweiniaid. Yr oedd yn hyf heb anweddeidd-dra, ac yn fwyn heb weniaith. Meddiannai driad godidog — gwroldeb, gonestrwydd, a challineb. Prif nodwedd ei bregethau oedd grymusder ac helaethrwydd. Dywedir nad oedd ei bregethau yn feithion. Dywedai hen bobl o'r ardal hòno, na chlywsant mo hono erioed yn diweddu cyfarfod "heb gael gafael yn y bobl." Dywedir ei fod yn pregethu bob dydd o'r wythnos ond dydd Llun a dydd Sadwrn, ac felly yr oedd ei lafur yn fawr iawn. Pregethai mewn tai annedd, angladdau, ac ar fyrddau llongau. Yr oedd yn ddyn o ddylanwad mawr, yr hyn oedd wedi ennill ei hun. Yr oedd yn meddu ar lawer iawn o graffder treiddiol, ac felly yn galla myned trwy bob amgylchiad dyrys gyda llawer iawn o rwyddineb. Medrai wneyd heddwch rhwng pobl a fyddent mewn ymrysonau cyndyn, gyda llwyddiant rhyfeddol. Yr oedd yn barchus iawn gan foneddigion y wlad. Byddai W. Lewes, Ysw., Llysnewydd, un o foneddigion mwyaf dylanwadol y wlad, yn diolch iddo am fod mor offerynol i gadw heddwch yn y wlad, gan ddywedyd, "Yr ydych yn fwy o werth yn y wlad na dwsin o honom ni, yr ustusiaid, yma." Wrth holi am y dyn rhagorol hwn, yr ydym yn ei gael yn fawr ym mhob modd-mewn galluoedd meddwl, doniau, craffder, diwydrwydd, crefyddoldeb, ac aidd dduwiol fel gweinidog. Yn y cymmeriad hyn, gwnaeth, ef allai, fwy na neb dros i'r Trefnyddion urddo gweinidogion eu hunain, ac felly i dori'r hen gymmundeb oedd rhyngddynt a'r Eglwys yn hyn, mae llawer yn ei ganmol yn fawr,
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/195
Prawfddarllenwyd y dudalen hon