Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/196

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac ereill yn ei feio. Clywsom lawer o hen bobl yn dywedyd, pe buasid wedi urddo Mr. Morris yn offeiriad, a dau neu dri gyda ef, na fuasai y Trefnyddion wedi tori allan o'r Eglwys; ond nid ydym yn ei gadarnhau, na chwaith yn Cymmeradwyn na chollfarnu y symmudiad hwnw, ond yn unig traethu yr hyn a glywsom. Cawsom ein geni a'n magu yn yr ardal hòno, ac er da welsom mo Mr. Morris erioed, clywsom ganmoliaeth uchel iawn iddo gan bawb. Bu farw yng nghanol ei ddyddiau, Awst 15, 1825, yn 56 mlwydd oed. Y mae cofadail hardd am ei dad ac yntau ym mynwent Troed yr Aur, ac arni englyn o waith Eben Fardd, fel hyn:

Angelaidd efengylu — y buont
Trwy 'u bywyd yng Nghymru,
Tywysogion llon y llu,
A Morrisiaid mawr Iesu."

Mae Thomas Morris, Ysw., Blaen y Wern, un o ynadon Ceredigion, yn fab iddo, ac felly hefyd Samuel Morris, Ysw., Garreg Wen. Y mae hefyd Mrs. Powell, Blaen Ffos, yn ferch iddo. Y mae gan Mrs. Powell fab o'r enw Ebeneser Powell yn weinidog yn Holt.

MORYDD (neu MEIRIG) AB LLYWARCH LLWYD oedd frenin Ceredigion. Yr oedd yn dad i Angharad, gwraig Rhodri Mawr. Bu farw yn y flwyddyn 840.

ODWYN AB TEITHWALCH, Arglwydd holl Geredigion. Blodeuodd tua diwedd y degfed canrif.

OLIVER, THOMAS, a aned ym mhlwyf Lledrod, o rieni cyfrifol, ac a ddygwyd i fyny yn offeiriad. Gwasanaethodd fel offeiriad mewn amryw fanau, ond yn benaf yn Dudley. Rhoddodd dir ac arian yn ei ewyllys, yr hon sydd yn dwyn y dyddiad Mai. 1745, at gynnal ysgol ramadegol barhäus yn ei ardal enedigol, i ryw nifer benodol o fechgyn tlodion, genedigol o'r adran hòno. Gadawodd dyddyn o'r enw Ynys y Garn, a phedwar cant o bunnau tuag at brynu tir arall ar gyfer yr ysgol. Rhoddodd yr awdurdod i John Lloyd, Ysw., Ffos y Bleiddiaid, a'i etifeddion dros byth. Ond bu Mr. Oliver farw cyn diwedd y flwyddyn hono, ac felly yr oedd yr ewyllys yn ddirym yng ngolwg y gyfraith.