a ruthrasant ar Faelgwn, gan ladd a chymmeryd ei wyr yn. garcharorion, cyn iddynt ddeall beth oedd yn myned ym mlaen; a braidd y gallodd Maelgwn ei hun ddianc. Gorfu i Lywelyn Fawr, drwy ystryw ei wraig anffyddlawn, ymostwng i dalu gwarogaeth i Frenin Lloegr, a dilynwyd ef gan y tywysogion a'r pendefigion Cymreig ereill; ond daliodd Rhys ac Owain eu hannibyniaeth. Daeth byddin- oedd y brenin, a Maelgwn, a Rhys Fychan, a nerth mawr i Benwedig, a gorfu i'r ddau frawd roddi fyny y wlad rhwng Dyfi ac Aeron. Trechodd Rhys ac Owain Rys Grug yn Nhrallwng Elgan. Unasant â Llywelyn Fawr, gan ei gynnorthwyo i gymmeryd Cestyll Tal y Bont, Brycheiniog, Ystum Llwynarth, Caerfyrddin, Llanstephan, Talacharn, St. Cler, Emlyn, Tredraeth, Cilgeran, ac Aberteifi. Cafodd y ddau frawd Gestyll Aberteifi a Nant yr Ariant, a thri cantref yng Ngheredigion. Oherwydd tori o Reinallt de Breos ei ammodau, goresgynasant ei gyfoeth yng ngwlad Buallt. Cynnorthwyasant Llywelyn Fawr i oresgyn Rhos yn Nyfed. Bu y pendefig gwrol hwn farw tua'r flwyddyn 1235. Yr oedd yn un o wroniaid ei oes. Canodd y Prydydd Bychan iddo fesur Proest Cyfnewidiog. Dechreua fel hyn:-
" Ywain ruddein rodd edmyg,
Ged ysgein gad ddiysgog,
Teyrnedd leith dudfeith deg
Teyrnas dipas dinag."
Mae iddo hefyd farwnad gan yr un bardd. Claddwyd ef wrth ochr Rhys ei frawd, yn Ystrad Fflur. Yn achau Owain ab Tudur, o Ben Mynydd, Mon, cawn y goleu hyn ar ddisgynyddion y pendefig hwn:-"Owain ab Meredydd ab Margaret, ferch Thomas ab Llywelyn ab Owain ab Meredydd, Arglwydd Isgoed, ab Owain ab Gruffydd ab Rhys, Tywysog D. Cymru."
OWAIN AB HYWEL DDA a gafodd freniniaeth Ceredigion yn y flwyddyn 948. Arweiniodd fywyd tra rhyfelgar. Trechodd feibion Idwal pan anrheithiasant Ddyfed, gan ladd Dinwallon,' brenin y wlad hòno. Torodd Gôr Llan Illtud, am fod yno wyr llên o Seison yn