Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/202

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlaen yn dda mewn dysg, ac hefyd mewn Parch gan bawb a'i hadwaenai. Cafodd alwad i fod yn weinidog yn y Drewen, plwyf y Brongwyn, ac a urddwyd yn 1828. Daeth yn ardderchog fel pregethwr; ystyrid ef yn un o bregethwyr blaenaf ei oes. Un o'r pethau cyntaf ym yn gofio yw, fod lluoedd o bell ac agos yn myned ar foreuau Suliau i wrando y "doniol John Phillips." Byddai lluoedd o dair sir yn myned i'r Drewen. Yr oedd cwch y pryd hyny yn croesi y Teifi yn ymyl y capel, ac ugeiniau lawer o bobl yn croesi drosodd. Ystyrid ef yn bregethwr Seisonig rhagorol; ac yr oedd felly mewn sylw mawr gan y boneddigion. Yn ei amser ef yr adeiladwyd Bryn Sion. Gweithiodd yn rhagorol i ddyrchafu yr Ysgol Sul yn yr ardaloedd, a meddai ar ddawn arbenig i holi a dysgu yr ysgolion. Bu am tua phum mlynedd yn y Drewen, ac fel seren fawr a dysglaer yn pelydru i olwg yr holl wlad; ond yng nghanol ei ogoniant, gwanychodd ei iechyd, fel y gorfu arno roddi y weinidogaeth i fyny. Aeth drosodd i Wlad yr Haf i gadw ysgol mewn lle o'r enw Wiviliscomb. Priododd â Miss Davie, o Lyme Regis, yr hon oedd foneddiges rinweddol: ond ni fu y briodas ond o fyr barhâd. Bu farw Tachwedd 23, 1834, a hyny yn orfoleddus.

PHILLIPS, JOHN, A.C., diweddar o Fangor, a aned ym Mhont Rhydfendigaid yn y flwyddyn 1810. Cafodd ei ddwyn i fyny yn grefyddol. Bu am ryw amser yn Ysgol Ystrad Meirig, ac wedi hyny yn Llangeitho gyda'r Dr. Edwards, o'r Bala. Daeth ym mlaen yn bregethwr. Penodwyd ef tua'r flwyddyn 1830 i fyned yn genadwr i Raiadr Gwy. Aeth ar daith i'r Gogledd, ac enillodd sylw mawr fel pregethwr. Cyfrifai rhai o brif ddynion y Gogledd ef yn feistrolgar iawn fel pregethwr ieuanc, gan fynwesu y gobeithion goreu am ei gynnydd. Aeth efe a'i gyn-athraw, Mr. Edwards, i Brifysgol Caereiddin. Ym mis Mai, 1836, symmudodd i Dreffynnon. Daeth yn y blaen yn dra llwyddiannus. Ar ol priodi, symmudodd i Ynys Mon, ac oddi yno i Fangor, yn 1847. Sefydlodd yno yn oruchwyliwr dan Gymdeithas yr Ysgolion Brytanaidd a Thramor. Llafuriodd yn ddirfawr gyda'r symmudiad hwnw. Adeiladwyd ysgoldy gwych i hyfforddi gwŷr