brwydr bwysig a gymmerodd le rhwng Rhys ab GrufFydd â Harri II. ym Mhencadair, pan y cyfryngodd gwŷr da Brycheiniog rhwng y brenin a Rhys, rhoddodd Rhys ei ddau nai yn wystlon o'i heddwch, sef Ëiniawn ab Anarawd, a Chadwgan ab Meredydd. Yn fuan, drwy ddichell y Seison, cafodd Cadwgan ei ladd yn ei gwsg gan Walter ab Richard, ei was, a chafodd Einiawn yr un dynged gan Walter ab Llywarch.
CADWGAN AB OWAIN ydoedd fab Owain, Tywysog Aberteifi, ac ŵyr i Hywel Dda. Lladdwyd ef gan y Seison yn y flwyddyn 949. (Myf. Arch. i. 44.)
CARANOG, yn Lladin Carantocus ydoedd fab Corun
ab Ceredig, a brawd i Tyssul. Efe a sylfaenodd Eglwys
Llangranog. Y mae ei wyl ar 16fed o Fai. Y mae John
Teignmouth yn ei osod yn fab, ac nid ŵyr i Geredig, ac
y mae y dyfyniad canlynol o waith yr awdwr, yr hwn a
gyfieithwyd gan Cressy, yn ddrych rhagorol o'r hyn yr
ydoedd bywydau y seintiau yn cael eu hysgrifenu yn y
canol oesoedd. Ar ol traethu fod Caranog "drwy ddisgyniad
a gwlad yn Frython, mab Ceredig, Tywysog Ceredigion
(Cereticae Regionsis): y mae y cyfieithydd yn myned rhagddo: "Rhyw dywysog o'r enw Ceredig, a feddai amryw
blant; ym mhlith y rhai, yr oedd un o'r enw Carantoc,
plentyn o anianawd dda, yr hwn a ddechreuodd yn foreu
i wneyd y pethau hyny ag ydynt dderbyniol gan Dduw.
Yn y dyddiau hyny, yr oedd yr Ysgotiaid yn blino
Prydain, fel yr oedd ei dad yn analluog i ddal pwys gofidiau y llywodraeth, a fynai roddi i fyny y dalaeth i Garanog.
Ond efe, yr hwn a garai y Brenin nefol yn llawer mwy na
theymas ddaiarol, a ffoiodd ymaith; ac wedi prynu
ysgrepan a ffon gan fenyw dlawd, drwy gyfarwyddyd Duw,
a ddygwyd i fan dymunol, lle efe, a orphwysodd, ac
a adeiladodd addolfa, ac yno efe a dreuliodd ei amser gan foliannu Duw. O'i ieuenctyd, efe a fynwesodd
burdeb a diniweidrwydd. O'r diwedd, efe a symmudodd
drosodd i'r Iwerddon, gan gael ei wahodd at St. Patrig.
Gwedi ennyd o ymgyfeillach, drwy gynghor, hwy a ymwahanasant, gan benderfynu i un o honynt bregethu yr
Efengyl ar y llaw dde a'r llall ar y llaw chwith. Yn eu