gydradd ag eiddo Glan Cunllo; ond ni chafodd y wobr. Yr oedd wedi anfon cyfansoddiad rhagorol, sef "Marwnad y Parch. J. Vincent, Llandudoch," i Eisteddfod Aberteifi; ond efe a fu farw cyn gwybod ei dynged! Dywedid fod y gân hòno yn un o'r cyfansoddiadau goreu yn yr iaith; ond o herwydd rhyw benchwibandod beirniadol, ni chafodd y wobr. Cyfansoddodd hefyd lawer iawn o ffugchwedlau, y rhai a ddangosent chwaeth a medr ardderchog. Yr oedd yn bwriadu ychydig cyn ei farwolaeth, i gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth; ond cyn myned ym mhellach, efe a fu farw ar yr 8fed o Orphenaf, 1866, yn 29 mlwydd oed. Claddwyd ef ym Mynwent Llangynllo, ac ni welwyd cymmaint angladd gan neb yn yr ardal er ys blynyddau lawer. Yr oedd yn barchus gan bawb. Yr oedd yn meddu synwyr cryf, a digonedd o bwyll a hynawsedd gyda hyny. Yn ei gorff, yr oedd yn weddol dal; ei wallt a'i farf oedd yn goch; a'i lygad oedd las, yn fawr ei faint, ac ar dor y croen. Yr oedd yn siriol a hawddgar yn ei wynebpryd; ac yn hawdd deall wrth ei olwg ei fod yn ddyn boneddigaidd, talentog, a llednais. Nid oedd wedi arfer un ffugenw arbenig hyd yn Eisteddfod Aberystwyth. Tra ym mhlith y lluaws ag oedd yn derbyn urdd yno, ni wyddai ar y cyntaf pa enw i'w gymmeryd, a dywedasom yn ei glust taw Rhys Dyfed fyddai yr enw goreu; ac felly bu. Treuliasom lawer awr ddyddan yn ei gymdeithas; ac ni chawsom well cyfaill erioed.
Fy nghyfaill, nis gallaf anghofio-byth,
Tra bwyf ei adgofio
A wnaf; beunyddiol nofio
Wna'r dyn cun ar don y co'.
Boed heddwch i lwch y bardd coethedig, a'r cyfaill cywir ac anwyl.
RHYDDERCH, JOHN, bardd ac argraffydd o'r Amwythig, a aned ym mhlwyf Llanwenog. Byddai weithiau yn rhoddi ei enw yn John Roderick. Argraffodd lawer o lyfrau Cymreig yn yr Amwythig, a chyhoeddodd Ramadeg Cymraeg o'i waith ei hun. Nid yw y gramadeg yn uchel am ei ddysg ar yr iaith; ond y mae yn dra rhagorol ar farddoniaeth. Nid oes modd cael ei well i