Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/212

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

draethu ar y cynghaneddion, a phedwar mesur ar hugain cerdd dafod. Daeth ail argraffiad o hono allan o Gaerfyrddin yn 1822. Casglodd hefyd Eiriadur Seisonig a Chymreig, yr hwn a gyhoeddodd yn 1725. Ymddengys iddo farw cyn y flwyddyn 1731, pryd y daeth Geiriadur Cymreig a Seisonig allan gan Thos. Durston, yn yr hwn y mynega yn y rhagddalen iddo gael ei ddechreu gan Sion Rhydderch, ac a chwanegwyd ac & orphenwyd gan y Parch. J. Williams, person, Willey, sir Amwythig.

RHYDDERCH, JOHN, oedd wr genedigol o ardal Llanbedr, a pherthynas, y mae'n debyg, i'r bardd o'r Amwythig. Ymunodd a'r Crynwyr, a bu yn arwain bywyd tra chyhoeddus wrth bleidio egwyddorion y blaid hòno. Bu o flaen yr awdurdodau yn Nhregaron o'r herwydd. Yr oedd ganddo gyfaill a elwid y "Cwacer Gwyn o Dregaron," yr hwn oedd wresog iawn dros y ffydd hono.

RHYDDMARCH DDOETH oedd fab Sulien, Esgob Ty Ddewi. Canlynodd ei dad yn Esgob Ty Ddewi yn y flwyddyn 1088. Cafodd efe a'i dri brawd eu haddysgu gan eu tad yng Nghôr Llanbadarn Fawr. Y mae Caradog o Lancarfan yn rhoddi clod mawr iddo am ei ddysg a'i ddoethineb. Y mae ei farwolaeth yn cael ei goffa fel y canlyn, o gylch 1098:-

"Bu farw Rythmarch doeth mab Sylyen escob, y doethaf o doethion y Brytanyeit y drydydd vlwydyn a deigain o'i oes, y gwr ni chyfodod yn yr oes oed cael y cyffelyb hyn noc ef, ac nid hawd credu na thebygu cael y cyfryw gwedi ef, ac ni chawsai dysg gan arall eryoed ethyr gan ei dad ei hun. Gwedy addasaf enryded y genedl ei hun, a gwedy klotvorusaf ac atnewydusaf ganmawl y gyfnessavyon genedloed, nyt amgen Seison a Ffreincod a chenedloedd ereill tu draw i'r mor."

Y mae crybwylliad am dano, yr hwn sydd yn traethu nad oedd ail nac eilydd iddo namyn ei dad, ac i addysg ddarfod ym Mynyw ar ol marwolaeth Rhyddmarch. Bu farw yn 1098. Y mae llawysgrif werthfawr wedi ei hysgrifanu ganddo ef, yn cael ei chadw yng nghasgliad Cotton yn y Gronfa Bydeinig, yn cynnwys yn benaf fuchedd y saint.

RHYS AB MAELGWYN oedd fab Maelgwyn ab