Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/213

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhys, a thad Rhys Fychan. Ymddengys fod y rhan fwyaf o'i gyfoeth yng Ngeneu'r Glyn, a'r ardaloedd cyfnesol. Pan fu farw Rhys Ieuanc, yr ydym yn cael i Lywelyn ab Iorweth roddi i Faelgwyn ran o Geredigion, a dyma y cyfoeth, y mae yn debyg, a gollodd Rhys yng Ngeneu'r Glyn. Yr ydym yn cael i Edmwnt, brawd brenin Lloegr, ddyfod & byddin i Lanbadarn Fawr, ac i Rys ab Maelgwyn ffoi i Wynedd, ac i wŷr Geneu'r Glyn ffoi yno ato, gan adael eu tiroedd yn ddiffaeth. Ond ym mhen rhyw amser, dychwelodd Rhys a byddin ganddo ac yng nghyfnerth amryw bendefigion ereill, adennillodd gwmmwd Penwedig, lle gorweddai y wlad a gollasai. Yn y flwyddyn ddiweddaf o fywyd Llywelyn ab Gruffydd, yr ydym yn cael fod Rhys ab Maelgwyn a Gruffydd ab Meredydd, yn dal yn ffyddlawn yn y Deheudir i'r tywysog, gan godi arfau o'i blaid, gan orosgyn tiroedd y brenin yn yr ardaloedd cyfnesol, ac i'r brenin anfon byddin fawr yn eu herbyn, a bod cad ar faes wedi bod ger llaw Llandeilo, lle y cafodd y Cymry eu trechu, gyda galanastra erchyll. Yno, medd Carnhuanawo, y llwyr ddilewyd y gweddillion olaf o annibyniaeth y Deheudir. Ymddengys taw yno y syrthiodd y ddau bendefig, Rhys ab Maelgwyn a Rhys ab Meredydd.

RHYS AB MEREDYDD oedd frawd Cynan ab Meredydd. Yr oedd ei gyfoeth yn rhan uchaf Ceredigion. Efe a drodd am amser gyda brenin Lloegr yn erbyn ei frodyr; ond wedi hyny, mae'n debyg iddo gydweithredu a Llywelyn ab Gruffydd. Gan fod amryw bendefigion o'r enw Rhys wedi blodeuo yn y trydydd ganrif ar ddeg, ni a roddwn yma daflen eglurhaol , o eiddo Carnhyanawc :- Rhys ab Grufydd ab Rhys ab Teadwr. Gelwid of Yr Arglwydd Rhys. Rhys Gryg, mab yr Arglwydd Rhys. Gelwid of weith- iau Rhys Fychan. Rhys Ieuanc, mab Gruffydd ab yr Arglwydd Rhys. Gelwid ef weithiau Rhys Fychan. Rhys Mechyll, mab Rhys Gryg. Ac er mwyn cyflawn ddealltwriaeth o'r perthynasan, dichon y bydd y daflen ganlynol o les:-