Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/214

Gwirwyd y dudalen hon


RHYS AB RHYS, sef mab yr Arglwydd Rhys, oedd ryfelwr dewr. Rhoddodd gyfoeth i Fynachlog Ystrad Fflur. Dyddiad ei freinlen yw 1198. Yr oedd gan yr Arglwydd Rhys ddau fab o'r enw Rhys.

RHYS CHWITH oedd bendefig o Geredigion yn amser Llywelyn ab Gruffydd. Bu yn Rhyfel y Groes ym Mhalestina, & chafodd ei wneyd yn Farchog y Bedd Sanctaidd gan frenin Lloegr. Enw ei dad oedd Llywelyn Fychan, ab Llewelyn Fawr. Ei arfbais oedd Sa, a lion rampt. Argt. Mae teulu Llanuch Aeron, ac amryw ereill, yn hanu o hono.

RHYS GRUG oedd fab Rhys ab Gruffydd. Yn y flwyddyn 1219, efe a briododd ferch yr Iarll Clâr. Yr oedd yn rhyfelwri dewr iawn. Mae amryw odlau ar gael i'r tywysog hwn. Bu farw yn Llandilo Fawr yn 1223.

RHYS GWYNIONYDD, bardd enwog a flodeuodd rhwng 1540 a 1570. Ymddengys yn ol yr achlyfrau ei fod yn foneddwr cyfoethog. Mae ei enw yn achres arglwyddi Llanbedr.

RHYS IEUANC oedd wyr yr Arglwydd Rhys Ei dad a gafodd arglwyddiaeth Ceredigion gan ei dad, yr Arglwydd Rhys, ac felly yr oedd Rhys Ieuanc yn iawn etifedd Ceredigion. Rhoddwyd Cestyll Aberteifi a Nant yr Ariant, a thri chantref o Geredigion, i Rys Ieuanc a'i frawd Owain yn senedd Aberteifi, yn ol trefniad Llywelyn Fawr o Wynedd. Pan ddaeth Llywelyn a'i fwriad i lwyr ddingstrio tref Aberhonddu, o blegid twyll Rheinallt de Brëos, cyfryngodd Rhys Ieuanc rhyngddynt ar y teler o fod pump o foneddigion y dref i gael eu rhoddi yn wystlon