iawn. Ystyrid of yn ddyn parchus yn ei ardal. Yr oedd yn aelod gyda Jenkin Jones, yn Llwyn Rhyd Owain, ac yn wresog dros olygiadau Arminaidd cymmedrol ei weinidog. Pethau cyffredin oedd testynau ei awen. Cyhoeddwyd ei ganiadau gan Mr. W. H. Griffiths, yn 1842, dan yr enw Diliau'r Awen.
A'i ber ddoniau bardd anian,— yn ei radd
Yn wreiddiol oedd Ifan;
Yn ei wlad yn o lydan,
Meddiannai glod am ddawn glân.
Er byd cul ac helbulon, — a dirif
Gyfyngderau mawrion,
Awen y bardd, hardd oedd hon,
Elai drwy fil o droion.
Yn rhwydd er pob aflwyddiant — ymredai
Ym mharadwys nwyfiant;.
Myned trwy ddyffryn mwyniant
Trylawn oedd, naturiol nant.
Yn y bwthyn dan bwython — ei awen
Rywiog oedd yn llifo:
Dan waith yn cyflym deithio
Ar hynt rwydd ar yr un tro.
Ei hudol ddifyr ganiadau, — lonent
Ryw lu o'n hen dadau;
A'u rhywiog hwyl pryder gan,
Ymlidient o'u teimladau.
Ei eni'n fardd ag awen fyw — a gadd
Y gwr- urdd ddigyfryw:
Yn hawdd y gwelwn heddyw,
Ym mri ei waith - nid marw yw.
RHYS, THOMAS DAFYDD, oedd wr lled gyfoethog o Foeddyn, plwyf Llanarth. Bu yn pregethu gyda'r Annibynwyr yn amser y Parch. Stephen Hughs, ac felly yn ei flodau tua dau can mlynedd yn ol. Gadawodd Mr. Rhys yr Annibynwyr, o blogid anfoddloni i S. Hughs fyned i Eglwys Llandyssul un boreu Sul i wrando y gwasanaeth, ac ymunodd â'r Bedyddwyr. Mae yn debyg fod Mr. Rhys yn un o'r Bedyddwyr cyntaf yn y sir. Adeiladodd gapel ar ei dir ei hun o'r enw Glandwr, ac y mae yn debyg mai