Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/217

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r sefydliad eglwysig hwnw, y deilliodd Morgan Rhydd- erch a'i feibion Abel ac Enoch Morgan, yng nghyd a'u disgynyddion yng Nghymru ac America.

RHYS WYNDAWD oedd un o bendefigion cadarnaf Ceredigion a'r Deheudir yn amser Llywelyn ab Gruffydd. Ymddengys taw y wlad o gylch Llanfihangel y Creuddyn oedd ei gyfoeth.

RICHARD, EDWARD, y bardd a'r ysgolor enwog, & aned ym mhlwyf Ystrad Meirig yn y flwyddyn 1714. Enw ei dad oedd Thomas Richard, yr hwn oedd ddilledydd mewn amgylchiadau isel, ac yr oedd yn cadw gwestty. Cafodd Abraham, brawd Edward, ei addysgu yn Athrofa Henffordd, ac wedi hyny yn Ysgol Ramadegol Caerfyrddin, ac aeth oddi yno i Rydychain. Byddai yn amser ei wyliau yn cadw ysgol yn Eglwys Ystrad Meirig; ac yno y dechreaodd ei frawd Edward sylfaenu ei wybodaeth o Roeg & Lladin. Aeth Edward wedi hyny i. Ysgol Ramadegol Caerfyrddin, yr hon ar y pryd oedd yn dra blodeuog o dan reolaeth y Parch. Mr. Maddox; ac wedi hyny, aeth dan gyfarwyddyd addysgiadol y Parch. Mr. Pugh, offeiriad oedranus a breswyliai ym Mhont y Gido, Llanarth, yr hwn a ystyrid yn uchel fel ysgolor, yn neillduol yn ei wybodaeth helaeth o Roeg. Ar ol hyny, agorodd ysgol ei hun yn Ystrad Meirig, yr hon yn fuan a gafodd glod mawr, ym mhell ac agos, a daeth llawer iddi o bell ffordd. Ar ol cadw ysgol am dro, efe a ddangosodd brawf arbennig o hunanymwadiad, gwroldeb, a gonestrwydd. Efe, yn ddisymmwth, a ryddhaodd ei ysgolheigion, gan fynegu nad oedd ei wybodaeth yn foddhaol i'w dysgu, a chyn y byddai gynnyg i'w dysgu mwyach, y mynai ragor o ddysg ei hun. Ar ol hyny, parhaodd am ddwy flynedd i berffeithio ei hun mewn Groeg a Lladin. Deuai i Eglwys fechan Ystrad Meirig haf a gauaf am bedwar o'r gloch y boreu, ac beb gwnini neb ond y Parch. Evan Evans (Prydydd Hir). Byddai bob amser ar ei fynediad i'r Eglwys yn neillduo rhyw gymmaint o amser at weddi. Efe a ailagorodd ei ysgol yn 1746, a daeth iddi nifer fawr o efrydwyr, y rhai a dyrent yno o bob parth o'r Dywysogaeth. Yn fuan ar ol hyny, cafodd ei benodi yn athraw ysgol waddoledig y