Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/221

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cryfaf o bawb, yr hwn a daflai gareg o waelod Pwll Caradog (ugain llath o ddyfnder) drigain lath ar hyd y fron. Ymborthai yn syml iawn; cawl cig eidion llawn conin oedd ei hoff fwyd. Cymmerai amryw o'r ysgolheigion ato i gydfwyta. Yr oedd yn elyn chwerw i "de." "Crochan y felltith" y gelwai y "tebot".

(1) Haul, Mai, 1846.

RICHARDS, DAVID (Dewi Silin), oedd fab y Parch. T. Richards, periglor Darowain. Ganwyd ef yn Llangynfelyn, Ebrill 12, 1783. Cafodd ei addysg foreuol gyda'i dad, ac wedi hyny yn Ysgol Ramadegol Ystrad Meirig. Urddwyd ef gan yr Esgob Burgess ar guradiaeth Penbre, swydd Gaerfyrddin. Ennillodd wobrwy am ddarllen Cymraeg pan yn cael ei urddo. Symmudodd i'r Dref Newydd, Maldwyn, ac oddi yno i Nantglyn. Aeth o Nantglyn i Lansilin, yr hon fywoliaeth a gafodd gan yr Esgob Luxmoore, yn 1819. Bu farw yn Llansilin, Rhagfyr 4, 1826, a chafodd ei gladdu ym mynwent y plwyf hwnw. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion, y Cymmrodorion, ac amryw gymdeithasau ereill. Yr oedd yn ofydd, bardd, ac offeiriad. Yr oedd yn dra medrus mewn chwareu y delyn, ac offerynau ereill, ac yn ganwr gwych iawn a'i lais. Yr oedd yn dra hyddysg yn y Pedwar Mesur ar Hugain Cerdd Dafod, ac yn amddiffynwr gwresog iddynt. Yr oedd yn fardd rhagorol, ac yn wresog dros yr eisteddfodan; a bu yn gyfnerth i Ifor Ceri ac ereill i ddadebru yr eisteddfodau. Yr oedd yn bregethwr o'r dosbarth blaenaf yn yr oes. Byddai tua saith cant o bobl yn arfer ymgynnull i'w wrando, ac yr oedd ei bregethau yn cyfateb i ddeall yr uchelaf fel y gwaelaf o fewn yr Eglwys. Ond yn ei flodau, daeth awel ddifaol angeu heibio i'r gweinidog talentog a rhagorol hwn. Clywsom fod y Misses Richards, ei chwiorydd, yn bwriadu cyhoeddi ei farddoniaeth.

RICHARDS, EVAN (neu Richardson), ysgolfeistr dysgedig, a phregethwr enwog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a aned yn y Bryngwyn Bach, Llanfihangel Geneu'r Glyn, tua'r flwyddyn 1759. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ystrad Meirig, a bwriadai ei dad ei godi yn offeiriad. Bu yn cadw ysgol yn Llanddewi Brefi. Aeth i wrando Dafydd Morris, Twr Gwyn; a chyn hir, daeth yn ymlynwr wrth