y Trefnyddion, gan daflu ei goelbren i'w mysg. Dechreuodd bregethu yn lled fuan. Aeth i daith gyda'r offeiriad Trefnyddol, Mr. Williams, Llanfair Clydogau, trwy Wynedd. Aeth i Frynengan, Arfon, i gadw ysgol. Yr oedd yn awr yn 23 oed. Symmudodd i Bwllheli, ac wedi hyny i Langybi. Yr oedd ganddo ysgol flodeuog yn y lle olaf. Byddai yn ddiwyd iawn yn dysgu y werin mewn gwybodaeth gyffredinol, ac mewn crefydd. Yr oedd yn ddwfn yn serch y plant a'r rhieni. Aeth drachefn i Frynengan, yno i Gaernarfon. Efe a J. Roberts, Llanfyllin (gyda'r eithriad o Jones, Llangan, unwaith), fu yn pregethu gyntaf yn y dref hòno gyda'r Trefnyddion. Arweinid ef yno gan John Gibson, garddwr yng Ngwestty Porthaethwy, â Gruffydd, o Benrhos (tyddyn ym Mon). Derbyniodd garedigrwydd ar ei fynediad yno gan y Parch. G. Lewis, wedi hyny Dr. Lewis, trwy ei gyfarwyddo i ba le yr oedd oreu iddo ef a'i gyfaill bregethu. Aeth yno i breswylio. Cadwai ysgol yn agos i ganol y dref, a rhoddid iddo barch Cafodd dir i adeiladu capel. Bu yr enwog John Elias gydag ef yn yr ysgol. Arferai, ar rai amgylchiadau, bregethu dair gwaith yr un noswaith, a hyny gyda bywiogrwydd mawr. Ymwelai yn y gwyliau a'r Behendir. Yr oedd yn ddyn o wybodaeth ddofn; ond yr oedd ei ddull o bregethu yn syml a deniadol. Bu farw Mawrth 29, 1824, yn 65 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu tua 45 o flynyddau.
RICHARDS, RICHARD, oedd fab y Parch. T. Richards, Darowain, a brawd i Dewi Silin. Ganed ef ym mhlwyf Llancynfelyn. Cafodd ei addysgu ar y cyntaf gan ei dad; wedi hyny yn ysgol Dollgellau; ac yn olaf yn Ystrad Meirig, o dan y Parch. J. Williams. Cafodd ei urddo gan yr Esgob Burgess ar guradiaeth Llanddeiniol a Nantcwnlle. Ennillodd wobr am ddarllen yn arholiad yr Esgob. Cartrefai gyda'r Parch. H. Lloyd, Cilpill, a cherddai naw milltir bob Sul i wasanaethu yr Eglwysi. Symmudodd i Lanbrynmair, ac oddi yno i Gaerwys, yr hon fywoliaeth a gafodd gan yr Esgob Luxmoore. Treuliodd ddeng mlynedd ar hugain yn y lle hwnw, a symmudodd wedi hyny i Meifod, yr hon a gafodd gan yr Esgob Short. Bu