Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/223

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

farw Ebrill 3, 1860, a chladdwyd ef yn Llangernyw. Yr oedd Mr. Richards yn wr mawr a rhagorol yn holl ystyr y geiriau. Yn ei farwolaeth, cafodd yr Eglwys Gymreig golled cyffredinol. Yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac yn dwyn ffrwythau toreithiog o dduwioldeb diffuant. Teithiodd lawer o Ogledd Cymru i bleidio y Feibl Gymdeithas, y Gymdeithas Genadol Eglwysig, yng nghyd â chymdeithasau gwerthfawr ereill, a hyny ar ei draul ei hun yn hollol. Ysgrifenodd lawer iawn i'r wasg — i'r Gwyliedydd, yr Eglwysydd, &c. Bu yn arolygydd Ysgolion Mrs. Bevan; & chynnorthwyai bob achos da yn ei wlad. Yr oedd yn anwyl a pharchus iawn gan bawb a'i hadweinai; ac yr oedd agos yr holl wlad yn ei adnabod, yn Eglwyswyr ac Ymneillduwyr. Yr oedd yn areithiwr godidog, yn llenor gwych, ac yn fawr ym mhob daioni.

RICHARDS, THOMAS, diweddar beriglor Darowain, a aned yn Yspytty Cynfyn, yn y flwyddyn 1764. Dygwyd ef i fyny yn Ystrad Meirig, o dan ofal yr athraw enwog E. Richard. Priododd â Jane, merch Mr. Dafydd Llwyd, o'r Cymmerau, Llanbadarn Fawr; a bu iddynt wyth o blant, sef pump o feibion, a thair o ferched. Cafodd ei urddo yn y flwyddyn 1779, yn Abergwili, gan yr Esgob Warren. Ei guradiaeth gyntaf oedd Eglwys Fach a Llangynfelyn. Symmudodd o'r Eglwys Fach i Lan ym Mawddwy, lle bu am lawer o flynyddau yn barchus iawn gan bawb, ac yn weithiwr dyfal yn yr Eglwys. Cafodd wedi hyny ei ddyrchafu i berigloriaeth Darowain, gan yr Esgob Bagot o Lanelwy. Gwasanaethai ei Eglwys, a dau Wasanaeth a dwy bregeth bob Sul. Cadwai Ysgol Sul, a holwyddorai yr Ysgol hyd o fewn tair wythnos i'w farwolaeth. Nid oedd ond un Gwasanaeth yn cael ei gynnal yno gan ei ragflaenydd. Yn y modd hyny, bu yn offerynol i roddi terfyn ar lawer o chwareuaethau a ddygid ym mlaen yn y plwyf ar y Sul. Yr oedd yn hynod o ddiwyd gyda phob peth a berthynai iddo fel gweinidog a phen teulu. Dygodd bump o'i feibion i fyny yn offeiriaid; a bu yn foddion i ddwyn saith o wŷr ieuainc ereill o'i blwyf i'r .weinidogaeth yn yr Eglwys. Bu farw Rhagfyr 2, 1837, a chladdwyd ef yn Darowain. Yr oedd