modd i beidio; - ond ni thyciai dim. Aeth allan, a phregethai iddynt yn y modd mwyaf taranllyd. Dyna ddechreuad ei bregethu mewn lle anghyssegredig. Yr oedd yr Eglwysi yn orlawn bob Sul; a llawer a'i canlynent o Nantcwnlle i Langeitho a Llanddewi. Cynnwysai yr olaf dair mil, a dywedir ei bod fynychaf yn llawn. Yr oedd ganddo yn yr amser hwn amryw bregethwyr, neu gynghorwyr, fel y gelwid hwynt, yn pregethu draw ac yma ar hyd y wlad. Ymwelai yn fisol â Thwr Gwyn, Gwaen Ifor, Ystrad Ffin, Abergorlech, a manau ereill. Bu yn pregethu yng Ngogledd Cymru, a rhoddai hynafgwr o'r Bala ddysgrifiad o'i nerth a'i hyawdledd - ei fod tu hwnt i neb a glywodd erioed. Cyflwynai ei holl alluoedd at y weinidogaeth-gogoniant Duw a lles dynion. Ond fel holl ddynion mawr y byd, yr oedd ganddo ei elynion. Yr oedd gweinidogion segur yn cenfigenu wrtho. Achwynid arno wrth yr Esgob, ei fod yn pregethu mewn lleoedd anghyssegredig. Rhybuddiodd yr esgob ef i beidio. Ymesgusodai yntau trwy ddywedyd fod sefyllfa y wlad yn galw am hyny. Dywedir taw dyn tra diffygiol o farn oedd y Dr. Squire, canys efe a wrandawodd ar elynion y dyn gweithgar hwn. Attaliwyd ef. Gwnaed hyn yn gyhoeddus ar y Sul yn Eglwys Llanddewi Brefi.(2) Daeth dau offeiriad i mewn rhwng y Gwasanaeth a'r bregeth, a rhoddodd un o honynt, sef y Parch. Mr. Davies, brawd Cad. Davies, Llanfochan, lythyr i Mr. Rowland, pan yn esgyn yr areithfa. Ar ol ei ddarllen iddo ei hun, hysbysodd ei gynnwysiad i'r gynnulleidfa, gan fynegu nad oedd i bregethu iddynt. Yna disgynodd ac aeth allan, a'r gynnulleidfa, y rhan fwyaf yn ei ddilyn gan wylo! Mewn canlyniad i hyn, adeiladwyd capel ym mhentref Gwenfil, gogyfer & Llangeitho; ac yno y gweinidogaethodd yn benaf hyd ei farwolaeth, sef dros 27 mlynedd, gyda llwyddiant mawr. Yn y modd sarhäus a gwarthus hwn y cafodd y dyn mawr a rhagorol hwn ei drin gan yr esgob Seisonig anghymhwys ac annheilwng hwn. Nid oedd y
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/227
Prawfddarllenwyd y dudalen hon