gan ffrydîau yr afonig, a dywedid gynt mai pyllau o ol traed y sant oeddynt, a bod rhinwedd feddygol ynddynt.
CARON, sant a sylfaenodd Eglwys Tregaron. Cedwid ei wyl ef ar y pummed o Fawrth.
CEDIG AB CEREDIG ydoedd fab Ceredig ab Cunedda.
Ymddengys mai Cedig ydoedd etifedd Ceredig, ac felly
dilynodd ei dad fel tywysog Ceredigion. Fel hyn, yr oedd
yn frawd, neu yn ewythr, i'r sant enwog Caranog.
Sefydlodd gadair farddol Dyfed, neu y Gorllewin, ym
Mangor ar Deifi, rhwng Llandyssul a Threfhedyn Emlyn.
CEDRYCH (neu CYNDDRYCH) AB GWEITHFOED
ydoedd, yn ol rhai ysgriflyfrau, yn nawfed mab i Weithfoed
Fawr, arglwydd Ceredigion. Ymunodd Cedryeh ag Einion
ab Collwyn yn erbyn Rhys ab Tewdwr Mawr, yr hwn
hefyd a gafodd ei ladd ganddynt. Yn y frwydr bwysig
hòno, ym Morganwg, yr oedd Einion ab Collwyn, Cedrych
ab Gweithfoed, Iestyn ab Gwrgant, a Robert Fitzhamon a'i
farchogion wedi cyduno yn erbyn Rhys ab Tewdwr. Yr
oedd Iestyn ab Gwrgant wedi addaw ei ferch yn wraig i
Einion am ymuno ag ef yn erbyn Rhys; ond ar ol lladd
Rhys, nacaodd Iestyn gyflawnu ei addewid ag ef, ac o
blegid hyny, galwodd Einion y Normaniaid yn ol; a
hwythau yn egniol a ddaethant, a chytunasant i ymosod ar
Iestyn eilwaith. Hyny a wnawd, a gorfu ar Iestyn ffol, a
chymmerodd yr estroniaid Normanaidd feddiant o'i gyfoeth.
Dywed Taliesin ab Iolo, yn ei nodiadau ar ei gywydd
i gastell Caerdydd, fod 2000 o wŷr gan Cedrych yn
cynnorthwyo Einion ac Iestyn; a dywed fod gwŷr Cedrych ag
Einion yn hawlio y fraint o ymladd ym mlaenaf yn y
frwydr, yr hyn a ganiatawyd gan Fitzhamon, drwy yr hyn
y lladdwyd mwy na'r hanner. Pan oedd y Normaniaid yn
rhanu. Morganwg rhyngddynt, rhoddasant Sanghenydd a
Meisgyn(1) i Einion ab Collwyn; ond cadwodd Fitzhamon
gastell Caerffili yn ei ddwylaw. Y mae teuluoedd lluosog y
Mathews o Forganwg yn hanu o Cedrych ab Gweithfoed;
megys y diweddar "Father Mathew," Apostol Dirwest yr
Ynys Werdd, a llawer ereill. Yn ol rhai hanesion, dywedir