Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/230

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ysgrifenu ei Dissertation on the Pelagian Heresy, ac efe a'i cynnorthwyai trwy gyfieithu amryw ddarnau o farddoniaeth Gymreig i'r Seisoneg. Symmudodd o Lanfihangel i Garno, a Llanwnog, Maldwyn; a thra yno dangosodd ffyddlondeb mawr fel gweinidog yr Efengyl. Ar farwolaeth y Parch. Mr. Harries, conadwr yn St. John's, Newfoundland, cafodd ei gymmeradwyn gan Ifor Ceri i Dr. Burgess, Esgob Ty Ddewi, i lanw ei le : a chafodd yr esgob ei foddloni gymmaint ynddo, fel y brysiwyd ei symmudiad. Derbyniodd arwyddion neillduol o foddlonrwydd a pharch gan Archesgob Caergaint ac Esgob Caerwysg. Ymadawodd Mehefin 24, 1810, yn yr "Antolope." Ar ol sefydlu yn St. John's, derbyniodd yn fuan arwyddion uchel o barch y trigolion. Adeiladwyd yno Eglwys newydd yn fuan; ond er ei bod yn fawr, gwelwyd yn fuan nad oedd yn ddigon: cymmaint oedd yr awydd am le yno, fel y rhoddid 23p. am gôr. Pregethai yn fynych chwe gwaith yn yr wythnos, a darllenai'r Gwasanaeth ddwywaith yn yr yspytty, ac edrychai dros yr ysgolion. Yr oedd yn llywydd Cymdeithas er Lledu Gwybodaeth Gristionogaidd. Cadwai drefn ar astudio yn galed Hebraeg, hanesiaeth eglwysig, a gwahanol wyddorau, megys fferylliaeth, &c. o herwydd gerwindeb yr hinsawdd, a gormodedd llafur, dechreuodd ei iechyd ammharu tua 1812, fel y gorfu arno ymddiswyddo yn Ionawr, 1816. Gyda pharch mawr, anrhegodd y Gymdeithas ef â 50p. Er mwyn cael y cyfle o deithio dros y Cyfandir er mwyn cryf hâd iechyd, cymmerodd y fantais o fordeithio mewn llong i Oporto; a phan yn agos tirio, cafodd gwymp caled, nes dadgymmalu ei ysgwydd, ac ni pheidiodd deimlo oddi wrth hyny tra fu byw. Ar ol teithio trwy Portugal, Yspaen, a Ffrainc, tiriodd ym Mhrydain yn 1817. Galwodd ar yr Esgob Burgess, a chafodd dderbyniad croesawgar iawn. Treuliodd beth amser gydag Ifor Ceri a Gwallter Mechain. Pryd hyny y cynlluniwyd i adferu yr eisteddfodau. Awgrymodd Mr. Rowland hyny i'r esgob; ac yng Ngheri, yn Awst dyfodol, pryd yr oedd yr esgob yn bresennol, penderfynwyd i gael cyfarfod yng Nghaerfyrddin yn mis Hydref i'r dyben hwnw. Cynnaliwyd y