cyfarfod, a phenodwyd Mr. Rowland yn ysgrifenydd. Yr oedd yr esgob wedi ei osod pryd hyn yn gurad Caerfyrddin. Sefydlodd ddarlithiau hwyrol ar y Sul yn y dref. Ymwelodd â phlwyf Llanwnog ym Mehefin, 1818, pan y cafodd lewyg trwm o herwydd toriad un o'r llestri gwaed. Gwanhaodd yn fawr; ond trwy gymhorth meddygol a bendith, daeth yn well. Priododd â Miss Matthews, Parc, Llanwnog. Cymmerodd ran helaeth yn yr eisteddfod yng Nghaerfyrddin yn 1819. Yr oedd yr esgob rhagorol a'i olwg arno yn barhäus, a rhoddodd iddo fywoliaeth Tregaron, gan obeithio y buasai ei iechyd yn cryfbau rhwng bryniau Ceredigion. Dywedodd cyfaill ar yr achlysur,-
"Rhagluniaeth helaeth yw hon — i Rowland,
Areilio plwyfolion
Tir ei geraint-Tregaron,
Llanddewi Brefi ger bron."
Ond gwanychodd iechyd Mr. Rowland, a bu farw Chwefror 29, 1820, yn 37 oed, gan adael gweddw hawddgar i alaru ar ei ol, a baban un mis ar ddeg oed. Claddwyd ef yng nghangell St. Pedr, Caerfyrddin. Mae amryw ddarnau o'i farddoniaeth wedi eu cyhoeddi ym "Mlodau Dyfed".
ROWLAND, NATHANIEL, A.C., oedd fab y Parch. Daniel Rowland, Llangeitho. Cafodd ei ddysgeidiaeth yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychain, lle y cafodd ei raddio. Priododd â merch y Parch. Howel Davies, un o'r offeiriad poblogaidd oedd yn cymmeryd rhan yn symmudiad Methodistaidd yr oes. Yr oedd yn gapelydd i'r Dug Gordon a'r Arglwyddes Huntington. Yr oedd unwaith yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yng Nghymru, mewn cysylltiad â'r Methodistiaid Cymreig ag y bu ei dad yn weithiwr diflin a llwyddiannus i sefydlu: ond pan ymneillduodd y cyfundeb hwnw yn hollol oddi wrth yr Eglwys, trwy gymmeryd gweinidogion heb urddau esgobawl i weinyddu y sacramentau, efe a ymlynodd yn gydwybudol wrth yr Eglwys. Ond nid oedd chwaith yn gweinyddu yn yr Eglwys er y flwyddyn 1807. Bu am flynyddau yn gwasanaethu mewn capel a godasid iddo yn Hwlffordd, mewn cyssylltiad â'r Methodistiaid hyny y rhai a ymlynent