argraffiad o waith rhyddiaethol Milton, dan olygiaeth un arall. Yn 1813, daeth allan gyfrol o farddoniaeth mewn rhan o waith ei ferch Caroline Symmonds, oedd wedi marw. Ar ol hyny, difyrodd ei oriau hamddenol wrth ysgrifenu Rhymed Translation of the Aeneas, yr hwn a gyhoeddodd yn 1817; ac ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth, efe a gyfansoddodd Bywgraffiad byr o fywyd Shakespeare, â'r hwn yr anrhegodd ef Mr. Whittingham o Chiswick, a'r hwn a ragddodwyd gan yr argraffydd hwnw i'w argraffiad 12plyg o waith Bardd Stratford-upon-Avon. Bu farw Dr. Symmonds yng Nghaerbaddon, 1826, yn 80 mlwydd oed. Yr oedd ganddo ferch enwog am yr hon yr ydym wedi crybwyll; ond y mae yn debyg mai yn Arberth y ganwyd hi. Bu farw yn 1812, yn 24 oed.
TALEY, RICHARD, abad olaf Ystrad Fflur, yn y flwyddyn 1553. Cafodd flwydd-dal o ddeugain punt.
TALIESIN BEN BEIRDD. Y mae caddug tywyll yn cuddio hanes boreuol y bardd mawr hwn. Tybia rhai iddo gael ei eni ar gyffiniau swyddi Caerfyrddin a Morganwg. Ereill a dybiant iddo gael ei eni tua Llyn Tegid; ereill a dybiant iddo gael ei eni ar lan Llyn Geirionydd; ac ereill a feddyliant taw Ceredigion bia'r hawl a'r urddas o fod yn rhandir enedigol prif-fardd mawr y Gorllewin; ac mai hyny a roddodd sail i Fabinogi Taliesin. Ef allai taw yma y cafodd ei eni, ond nis gallwn brofi hyny; ond y mae tebygolrwydd mawr taw yma y cafodd ei gladdu, sef ger llaw Pentref Taliesin, lle hyd yn ddiweddar yr oedd hen fedd hynafol o'r enw Gwely Taliesin; ond o herwydd anwariaeth y creadur ar lun dyn a ddaliai y tir, torwyd y bedd, a thailwyd lludw yr hen brif-fardd a fu yn ennyn gwladgarwch yn ei gydwladwyr i wrthladd gormes estroniaid. Mae llawer o waith Taliesin yn argraffedig yn y Myfyrian Archaiology. Gwel y Cambrian Plutarch, Mabinogi Taliesin, &c.
TEITHWALCH, un o freninoedd Ceredigion, yn yr wythfed canrif.
THOMAS, ALBAN, periglor Blaenporth, oedd enedigol o'r ardal hono. Perthynai i deuluoedd parchus, ac yr oedd