Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/236

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hanu yn gywir o Arglwyddi clodfawr y Tywyn, ger Aberteifi. Yr oedd yn ysgolor da, yn dduwinydd dwfn a manwl, ac o fywyd crefyddol a gweithgar. Yr oedd hefyd yn fardd a llenor gwych, ac yn wladgarwr diffuant. Y mae yn amlwg taw yn Emlyn y bu y wasg sefydlog gyntaf yng Nghymru; ac y mae yn addas mynegu taw Alban Thomas fu yr achos dechreuol o'i sefydlu. Efe a ddylanwadodd ar y boneddigion gwladgar S. Parry, Ysw., Neuadd Trefawr, a Walter Lloyd, Ysw., o Goedmor. Argraffwyd llyfr yn Nhrefhedyn Emlyn yn 1719, sef Eglurhad o Gatecism Byraf y Gymmanfa; ac yn 1722, Dwysfawr Rym Buchedd Grefyddol. Cyfieithydd y llyfr olaf oedd y Parch. Alban Thomas. Cyflwynwyd y llyfr i Mr. Parry a Mr. Lloyd. Yr argraffydd oedd Isaac Carter. Cafodd y llyfr dderbyniad helaeth yn Lloegr ar ei ymddangosiad cyntaf. Gwerthwyd dros ddwy fil a deugain o hono; ond ni wyddid pwy oedd ei awdwr. Priodolid ef i Iarll Cyntaf Egmont gan y cyffredin, yn neillduol gan Walpole yn ei gofrestr. O'r diwedd, cafwyd allan taw yr awdwr oedd W. Melworth, Ysw., o gyfreithdy Lincoln tad cyfieithydd Pliny a llythyrau Cicero. Yr oedd Mr. Thomas, o'r flwyddyn 1722 hyd 1740, yn beriglor Blaenborth a Thremain, ac ef allai yn bwy. Yr oedd yn preswylio yn y Rhos, tyddyndy ger llaw, ar dir Mr. Parry, Neuadd. Yr oedd yn berthynas i Mr. Parry. oddi yno y mae Coedmor. Yr oedd Mr. Lloyd yn arglwydd faenor y Rhos. Gadawodd Mr. Thomas amryw weddillion llenyddol ar ei ol. Efe oedd awdwr Cywydd Marwnad Mr. Hector Morgan, o'r Plas, yn Aberporth, gorhendaid Thomas Morgan, Ysw., cyfreithiwr yn Aberteifi yn bresennol; a Marwnad Ifan Gruffydd o'r Twr Gwyn. Cyfansoddodd hefyd Sen i'r Tobacco. Mae ol dysg a chwaeth yn ei holl waith; ond dywedid ei fod yn edrych ar gymmeriad llythyrenol yn ormodol yn ei farddoniaeth i fod yn boblogaidd. Mae llawer iawn o'r tylwyth yng ngwaelod Ceredigion; ac y mae yr enw Alban yn aml iawn ganddynt. Mae Alban Davies, Ysw.,. Tyglyn, yn orysgynydd i Mr. Thomas.

THOMAS, DAVID EVAN, gweinidog gyda'r Bedyddwyr,