Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/237

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a aned yn ardal Sulian. Bedyddiwyd ef tua'r flwyddyn 1717; dechreuodd bregethu yn fuan. Bu yn pregethu yn ardaloedd Llancrwys, Caio, a rhanau o Frycheiniog a Maesyfed. Urddwyd ef yn 1740, yn Ty Danyrallt Fawr, Llandyssul. Bu yn ddiwyd yn y weinidogaeth, ac yn offerynol i blanu a helaethu achos y Bedyddwyr yn y parthau hyny. Bu farw yn 1766.

THOMAS, DAVID, oedd enedigol o Geredigion. Nid oes nemawr o'i hanes ar glawr, ond mewn cyssylltiad a hen lyfr a gyhoeddwyd yng Nghaerodor gan F. Farley, o'r enw Llyfr Ecclesiastes, neu y Pregethwr, wedi ei gyfansoddi ar fesur cywydd gan Edward Evan, o Aberdar, a Lewis Hopcyn, o Lynogwr. Rhed y rhagymadrodd fel hyn: "Mal deallo'r darllenydd, yr hyn fu yn achos a chymmelliad i'r gorchwyl yma o gyfansoddi Llyfr y Pregethwr ar Fesur Cywydd, cymmered sylw o'r ymadrodd canlynol. Dygwyddodd i wr ieuanc o Sir Aberteifi a'i enw Dafydd Thomas, ddyfod i waered i Forganwg o ddeutu y flwyddyn 1727. Un oedd o berchen cynneddfau naturiol cryfion; ac wedi cael cyfran weddol o fanteision gwybodaeth, efe a dderbyniwyd yn aelod o gynnulleidfa'r Parch. Rhys Prys o'r Ty'n Tonn. Yr oedd ganddo dalent o Awen & rhwyddineb ymadrodd. Efe a ymosododd i ddysgu Rheolau Gramadeg, a iawn ysgrifeniaeth, o ddeutu'r flwyddyn 1730; a daeth yn lled gyfarwydd â dychymmygfawr mewn barddoniaeth Gymraeg. Bûm ar brydiau yn ei gyfeillach, pan oeddwn tuag at ddwy ar bymtheg oed: ac am hyny yn rhy ysgafn a phenhoeden i sylwi na dal gafael ar un peth o werth a theilyngdod. Efe a briododd, ond ni chafodd nemawr hyfrydwch oddi wrth y cyflwr hwnw. Ei ddyddiau olaf a dreuliodd gyda Dafydd Martin, yn Ystrad Dyfodwg. Efe a orphenodd ei yrfa yn y flwyddyn 1735; ac wrth chwilio ac edrych ei ysgrifeniadau ef, mi a gefais y bennod gyntaf o Lyfr y Pregethwr wedi ei chyfansoddi ar fesur cywydd: yr hyn a'm cynhyrfodd i ofyn cynnorthwy gan fy nghyfaill a'm cydnabod, Lewis Hopcyn, i orphen a chyflawnu yr hyn oedd wedi ei attal gan farwolaeth. Felly, dyma i ti, nid yn unig ymadroddion o eiddo Solomon mewn prydyddiaeth, ond hefyd ti a