Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

mai Cadifor ab Oedrych oedd ar y maes; ond nid ydyw yn annichodadwy nas gallasi y tad a'r mab fod ar y maes.

(1) Ymddengys i Einìon gael y rhandir hwn. Meisgyn : tebyg mai dyma Meskin, lle mae palas y diweddar Alaw Goch

CEINWEN, ferch Arthen, ydoedd ferch Arthen, Brenin Aberteifi. Priododd ag Arthfael Hen ab Rhys, Arglwydd Morganwg, a Brenin ar Saith Gantref Gwent.


CLODDIEN AB GWYRYDR, Arglwydd holl Geredigion. Priododd Morfydd, cydetifeddes Odwyn ab Teithwalch, Arglwydd holl Geredigion. A'i bais S, y llew saliant, fal y dyg Cedrych.


CLYDAWG, un o dywysogion Aberteifi. Ymddengys ei fod yn dadcu i Arthen, yr hwn ydym wedi grybwyll yn barod.


CRISTIAN, ferch Gweithfoed Fawr. Yr oedd yn abades yn Nhal y Llychau.


CURIG LWYD, esgob, y mae yn debygol, yn Llanbadarn Fawr; efe a sylfaenodd Eglwys Llangurig, Sir Drefaldwyn, ac yr oedd ei fugeilffon yn cael ei chadw yn ardal St. Harmon, yn amser Giraldus Cambrensis. Y mae traddodiad y canol oesoedd yn traethu i Gurig Lwyd, neu Gurig Fendigaid, dirio yn Aberystwyth, na wyddid yn y byd o ba le, ac iddo symmud ym mlaen hyd y lle a elwir heddyw Eisteddfa Gurig, ac iddo o'r fan hòno, weled llanerch hyfryd a dymunol, yr hon a ddewisodd i weddïo, lle yr adeiladodd addolfa, a lle y mae yr Eglwys i'w gweled.


CYNAN AB GWEITHFOED, neu Cynan Feiniad, ydoedd fab Gweithfoed Fawr. Ei etifeddiaeth oedd Tegana.


CYNAN AB MEREDYDD ydoedd fab Meredydd ab Owain ab Gruffydd ab Rhys ab Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr Mawr. Yr oedd yn Arglwydd Caron a rhan o Geneu'r Glyn. Yr oedd yn un o bendefigion cadarnaf y Deheudir yn amser Llewelyn ab Gruffydd, Cafodd ef a'i ddau frawd, Gruffydd a Rhys, eu gyru i gyfyngder, nes gorfod ymostwng i wneyd gwarogaeth i Frenin Lloegr. Yn yr amser hwnw, y mae yn debyg, y gwnaeth y Tywysog Llywelyn ab Gruffydd, delerau annheilwng er cael Elen de Montefort, ei ddarpar wraig, yn rhydd o garchar y brenin. Ar ol hyny, daeth Seison lawer i Geneu'r Glyu, a rhanau ereill o Geredigion, gan drawsfeddiannu tiroedd y pendefigion Cyrmreig, yn groes i'r cytundeb â Brenin Lloegr. Y mae Carnhuanawc,