Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/240

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A rhoddent, llunient yn llawn,
Fry yn enwog farn uniaws;
A'r anghall na ddeallo,
Dystawed, na feied fo."

Bu farw tua'r flwyddyn 1765.

THOMAS, JOHN, gweinidog ymneillduol yn Llechryd, ac a breswyliai yn Llwyn Grawys, oedd wedi ei ddwyn i fyny yn Rhydychain, lle y cafodd ei raddio. Bu yn weinidog yn Llechryd am amser maith. Yn ei amser ef y cododd dadl fawr ar Fedydd yn yr ardal. Bu Mr. Thomas yn pregethu ym Mhenlan, ger y Frenni Fawr, ar y pwnc, sef Bedydd Babanod, a Mr. John Jenkins, Rhyd Wilym, ar ei ol dros Fedydd Crediniol. Arweiniodd hyny i James Owen, o blwyf Abernant, ysgrifenu llyfr o'r enw Bedydd Plant o'r Nef, ac un arall yn wrthwynebol iddo gan Benjamin Keach, o Loegr. Mae yn debyg taw gwr genedigol o'r ardal hòno oedd Mr. Thomas.

THOMAS, JOHN, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Aberteifi, a aned yn 1760, ac a fedyddiwyd yn Eglwys y Ferwig: felly mae yn debyg mai yn y plwyf hwnw y ganed ef. Cafodd ei ddwyn i fyny yn ddilledydd. Ymunodd yn weddol ieuanc â'r Trefnyddion, a dangosodd yn fuan dalentau dysglaer mewn pethau crefyddol. Daeth yn un o bregethwyr callaf yr oes. Yr oedd yn un o'r tri ar ddeg cyntaf a urddwyd yn Llandeilo, a chafodd fyw i weled claddu y lleill bob un. Bu farw Chwefror 3, 1849, yn 89 oed, ar ol bod am bymtheg a deugain o flynyddau yn pregethu, ac o fuchedd ragorol. Y mae cyfrol o'i bregethau, yng nghyd â hanes ei fywyd, wedi ei chyhoeddi dan olygiaeth y Dr. Phillips o Henffordd yn 1851. Ys dywedodd Eben Fardd, —

"Nid oedd gormod yn ei araith,
Nid oedd brychau chwaith na chwyn;
Ei bregeth, fel rhyw goflaid syber,
Rwymai'n dyper ac yn dyn:
Ei ddull araf a bendigaid,
Weithiau droia'n danbaid iawn;
Ond yn y nef, lle'r aeth oddi wrthym,
Pwy a ddywed rym ei ddawn?"