THOMAS, JOHN, oedd enedigol o Flaen Cyswch, ger y Cilgwyn. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Cilgwyn, a dechreuodd bregethu yn fuan. Cafodd addysg golegol, a bu yn weinidog yn Llundain. Bu farw yn 1776. Meddiannai lyfrgell ardderchog, yr hon a ddaeth i Flaen Cyswch ar ol ei farwolaeth, yr hon a gyfrifid fel math o gronfa lenyddol.
THOMAS, LEWIS, oedd frodor o blwyf Llangaranog, ac yr oedd yn wr o ddysg a chwaeth lenyddol. Bu ganddo law yn nygiad allan amryw lyfrau yn nechreu y canrif diweddaf yng Nghastell Newydd a'r Amwythig. Mewn hen lyfr o'r enw Dirgelwch i Rai Ddeall, a gyhoeddwyd yn 1714, mae y rhagymadrodd gan Lewis Thomas.
THOMAS, SIMON, oedd enedigol o ardal y Cilgwyn,(1) naill ai ym mhlwyf Llangybi, neu Landdewi. Cafodd ei dderbyn yn aelod yn y Cilgwyn gan y Parch. Philip Pugh, a chyn hir, o herwydd gweled ei gymhwysderau, cafodd ei annog i ddechreu pregethu. Cafodd ysgol dda yn ei ardal enedigol, ac wedi hyny, efe a fu mewn coleg, ond ni ddywedir ym mha le. Daeth yn wr dysgedig ac yn bregethwr enwog. Cafodd ei urddo yn y Cilgwyn a'r cylchoedd, lle y bu yn llafurio am ryw amser. Symmudodd i ddinas Henffordd, ac yno y treuliodd y gweddill o'i Oes. Yr oedd twrf y ddadl fawr yng nghylch Calfiniaeth ac Arminiaeth yn dyfod i sylw yn yr amser yr oedd Mr. Thomas yn ei flodau. Yr oedd capeli maes llafur Philip Pugh ac ereill yn dyoddef oddi wrth yr helynt boeth; ac felly ysgrifenodd Mr. Thomas i wrthwynebu Arminiaeth. Cyhoeddodd yn y flwyddyn 1735, Hanes y Byd a'r Amseroedd; yn 1741, Deonglydd yr Ysgrythyrau, yn cynnwys 144 o dudalenau; yn 1742, Arminian Heresy, yn 202 dudalenau; ac yn fuan ar ol hyny, Remarks on the Treatise entitled the Beauties of Holiness. Nid yw y dyddiad wrth yr olaf, ac ni ddywedir pa le yr argraffwyd ef Dywedir iddo gyhoeddi llyfr o'r enw The Pelagian Heresy, ond ni