Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/242

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

welsom mo hono, ac yr ydym yn tueddu i feddwl mai yr Arminian Heresy a feddylir. Gwelsom Hanes y Byd a'r Amseroedd; ac y mae o'n blaen yn awr y tri llyfr Deonglydd yr Ysgrythyrau, Arminian Heresy, a Remarks on a Treatise entitled the Beauties of Holiness, wedi eu rhywmo yn un gyfrol drwchus a destlus. Y mae ben nodyn mewn llaw-ysgrifen, a all fod o ran golwg yn gant oed, yn y dechreu fel hyn:-"Each of these books were written by Mr. Simon Thomas, a dissenting minister, who was born near Kilgwyn, in Cardiganshire, but he resided for many years in Hereford, and died there." Ysgrifenwyd The Beauties of Holiness in the Book of Common Prayer, Gan Dr. Biss, esgob Henffordd. Bu farw Dr. Biss yn 1721. Gwelsom mewn llawysgrif arall fod Mr. Thomas yn cadw argraffwasg yn ei dy ei hun, ac iddo argraffu amryw lyfrau, heb ei eiddo ei hun. Yr ydym wedi chwilio gryn lawer pwy oedd tylwyth Mr. Thomas, ac wedi llwyddo i gael y tebygolrwydd mwyaf, mai brawd tad y Parch. Joshua Thomas, Llanllieni, awdwr Hanes y Bedyddwyr, oedd; ac mai efe fu yn offerynol i awdwr Hanes y Bedyddwyr fyned i Henffordd pan yn ieuanc. Ni a welwn fod teulu y Thomasiaid yn enwog iawn am eu talent a'u gweithgarwch, fel gweinidogion, meddygon, ac awdwyr enwog, bellach er ys dwy neu dair oes, ac yn parhau i fod felly.

(1) Yn "Hanes Emlyn," dywedasom ein bod wedi clywed am y gwr enwog Simon Thomas, ei fod yn enedigol o'r Cilgwyn. Tybiai y cyfaill a'n hysbysodd mai y Cilgwyn ger Emlyn oedd; ond wedi chwilio a gweled ei waith, gwelwa tu hwnt i ddadl taw Cilgwyn Llangybi ydoedd.

THOMAS, THOMAS, diweddar reithor Aberporth, a aned yn y Drewen, plwyf Blaenporth. Pan yr oedd Mr. Thomas yn naw mlwydd oed, symmudodd ei rieni i'r Henbant, plwyf Llandygwydd. Yr oedd ei dad yn offeiriad ac ysgolfeistr dysgedig, a bu am dro hir yn cadw ysgol yn Llechryd. Ar ol i Mr. Thomas dderbyn addysg i raddau lled bell gan ei dad, cafodd ei anfon i Ysgol Rammadegol Caerfyrddin, dan ofal Mr. Barker; a phan tua dwy ar hugain oed, cafodd ei urddo, a bu yn gurad yng Nghaerloew dan y Parch. Mr. Morley; a phriododd foneddiges o'r dref hòno. Yr oedd y Parch. John Thomas, ei dad, yn gwasanaethu Eglwysi Blaenporth, Aberporth, Llandygwydd, a Llechryd, ac wedi heneiddio o hono, galwodd ei fab adref ato yn gurad. Ar ol i Mr. Thomas