Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/245

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1773. Yn 1790, cafodd fywoliaeth Rhydyberth, swydd Benfro; a gwnaed ef yn ddeon gwladol y ddeoniaeth lle y preswyliai yn 1795. Yr oedd hefyd yn gapelydd i Iarll Cawdor. Yn 1796, cafodd ebrwyaeth Penbryn. Preswyliai yn Ffynnon Wertil. Bu farw yn 1799, yr fuan ar ol gweinyddu y Cymmun yn Eglwys Penbryn.

TURNOR, John, a aned ym mhlwyf Llangoedmor. Aeth pan yn ddwy ar byintheg oed i fwrdd y llong ryfel Fate; ac yn fuan, pan ar dueddau India Orllewinol, bu mewn brwydr boeth a'r Ffrancod, sef yn 1783. Yn 1785, ar gais Dug Clarence (gwedi hyny Gwilym IV.), cynimerodd swydd ar fwrdd y Pegasus. Pan yn yr ymdrech o feddiannu Toulon, dangosodd lawer iawn o wroldeb. Yr oedd pryd hyny yn gadraglaw, ac mewn canlyniad dyrchafwyd of yn gadben un o'r llongau a gymmerasid oddi ar y Ffrancod; a chafodd gyfran o 12,000p. fel ysbail. Symmudodd yn 1794 i'r Glory, ac yn fuan ar ol hyny i'r Monarch. Gwnaed ef yn gadben ar y Trident yn 1799. Bu farw yn 1803. Daeth y Turnoriaid i ardal Aberteifi yn amser Siarl II., ac ymwladasant yma yn llwyr.

TYFRIOG AB DINGAD, sefydlydd Eglwys Llandyfriog, yn niwedd y chwechfed canrif.

TYSSUL AB CORUN oedd hefyd wyr i Geredig. Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llandyssul yng Ngheredigion, ac un arall o'r un enw ym Mhowys. Cedwid ei wyl ef Ionawr 31.

VAUGHAN, HARRI, o Gilcenin, oedd o deulu Fychanyniaid y Trawsgoed. Cymerodd H. V. Ran gyhoeddus yn helyntion ei wlad yn amser Olifer Cromwel. Mae cofnodiad am dano fel hyn:-

"Harry Vaughan, anything for money, a proselyte, and favourite to all the changes of times; a Sheriff for his late Majesty, afterwards for Cromwel, Justice of the Peace under each, tyrant in power, mischievous by deceit, his motto, Qui nescit dissimulare vivere."

Beth bynag oedd cymmeriad H. V., nid oedd o'r un blaid ar ysgrifenydd uchod, ac felly rhaid ystyried yr hanes.

VAUGHAN, SYR JOHN, y cyfeithiwr tra enwog, ydoedd