fab Edward Vaughan, Ysw., o'r Trawsgoed, plwyf Llanafan, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1608. Efe a addysgwyd yn Ysgol y Brenin yng Nghaerwragon, lle yr arosodd am bum mlynedd, ac wedi hyny a anfonwyd i Eglwys Crist, Rhydychain, yn bymtheg mlwydd oed. Pan yn ddeunaw oed, efe a aeth i'r Inner Temple, lle am ryw amser y dilynodd ei astudiaeth athrofaol - prydyddiaeth a mesuroniaeth - yn hytrach na chyfreithiau dinasfreiniol Lloegr. O'r diwedd, wedi cwympo mewn adnabyddiaeth â Selden ac ereill, efe a ddysgodd werth wybodaeth ddinesig; ac felly yn fuan, efe a ymroddodd yn ddyfal at yr astudiaeth hòno, yn neillduol y cyfreithiau dinasfreiniol, yr hon alwedigaeth a ymgymmerodd ati ar ol hyny. Ar ol cael ei ethol yn fwrdeisydd o dref Aberteifi yn y Senedd a gyfarfu Tachwedd 3, 1640, efe a ddaeth yn siaradwr hynod ac edmygol; ond gan fod y rhyfel cartrefol yn tori allan, gosododd derfyn ar ei symmudiadau, ac efe pryd hyny a adawodd Lundain, gan ymorphwys yn ei wlad enedigol. Y mae y cymmeriad canlynol wedi ei ysgrifenu yn y flwyddyn 1661, ac er nad yw yn gymmeradwyaeth, eto mae yn teilyngu ei goffa :-
"John Vaughan, yr hwn a siarada yn uchel dros freniniaeth, ond yn dra gochelgar i wlychu pen ei fys dros ei lledu. Efe a wasanaethodd fwrdeisdref Aberteifi yn y Senedd Hir, ond a'i gadawodd ar brawf Strafford: a enwyd gan ei Fawrhydi yn un o'r Dirprwywyr i fod yng nghyflafaredd Ynys Wyth, ond a nacaodd; a anogodd Cromwel yn bersonol i gymmeryd y goron; a brynodd Mofenydd, un o faerorau ei ddiweddar Fawrhydi, yn Sir Aberteifi ; a gynnorthwyodd yn bersonol i gymmeryd Castell Aberystwyth, pan yr oedd gwarchodlu yn ei gadw dan y brenin. Trwy y gwasanaeth hyn, cafodd ei arbed rhag gorfodedigaeth; a daliodd swyddi dan y ddau lywodraeth diweddar. Y mae o alluoedd cryfion; ond yn gosod gormod gwerth arnynt, yn drahäusfalch ac yn anghymharol o ddryglawn; trwy roddi benthyg wyth can punt i'r Milwriad Philip Jones, a chyfeillion ereill, yn ddiweddar a gafodd lywodraeth y sir y mae yn byw ynddi i barhau ar ei gyfeillion a'i ddilynwyr hyd heddyw."
Ar ol yr Adferiad, efe a gafodd ei ethol yn Farchog dros Sir