fel y gwelir yn Hanes Brycheiniog. Dywedir i Mr. Walters farw yn 1737, yn 69 oed; ond ceir ei enw yn danysgrifiwr am y Fuchedd Gristionogol yn 1750. Y mae yn debyg taw un o'r un teulu oedd y Parch. John Walters, awdwr y Geiriadur Cymreig a Seisonig, ond ei fod yn enedigol o sir arall.
WILLIAMS, David, ysgrifenydd dysgedig a chywrain, a aned, y mae yn debyg, yn Llechryd yn 1738. Ar ol derbyn addysg yn ei ardal enedigol, efe a symmudodd i Athrofa Caerfyrddin i gael ei gymhwyso i'r weinidogaeth, ym mhlith yr Ymneillduwyr, yr hon alwedigaeth a gymmerodd ar gais ei rieni, yn groes i'w duodd ei hun. Yr oedd ei alluoedd a'i gyrhaeddiadau pryd hyny yn dangos yn llawer uwch na'r cyffredin. Pan yn gadael yr athrofa, efe a gymmerodd ofal cynulleidfa fechan yn Frome, Gwlad yr Haf; ac ar ol ychydig arosiad yno, efe symmudodd i gylch helaethach ac uchelach at gynnulleidfa yng Nghaerwysg. Symmudodd wedi hyny i Highgate, fel gweinidog cynnulleidfa o Ymneillduwyr, ac wedi aros yno am tua dwy flynedd, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel awdwr yn 1770, drwy lythyr at David Garrick, sef beirniadaeth gywrain a meistrolgar ar y chwareuydd; ond yn ymosodiad gwawdlym a phersonol ar y dyn, gyda'r bwriad o ryddhau Mossop oddi wrth anfoddlonrwydd tybiedig y Roscius diweddar; daeth yr effaith hòno ym mlaen; rhyddhawyd Mossop, a chymmerwyd y llythyr oddi wrth y llyfrwertbydd. Yu fuan ar ol hyny, ymddangosodd ei The Philosopher in the Conversation, yr hwn a gafodd ddarlleniad helaeth, ac ennillodd lawer o sylw. Yn fuan ar ol hyny, daeth allan ei Essays on Public Worship; Patriotism and Projects on Reformation, wedi ei ysgrifenu ar yr achlysur o brif ddadleuon yr oes. Cyhoeddodd wedi hyny ddwy gyfrol o Sermons, chiefly upon Religious Hypocrisy; a phryd hyny, gadawodd ei alwedigaeth yn y weinidogaeth, a'i gysylltiad ag Ymneillduaeth. Trodd yn awr at addysgu yr ieuenctyd; ac yn 1773, cyhoeddodd Treatise on Education, gan gymmeradwyo dull seiliedig ar gynlluniau Commonius a Rousseau, yr hwn a gynnygiodd ddwyn i bon. Cymmerodd dy yn Chelsea, gan briodi boneddiges