yr oedd ei weithgarwch yn gydradd. Ceir erthyglau arno yn y Cambrian Register, cyf. iii.; "General Views of the Life and Writings of the Rev. D. Williams, by Captain Morris," &c.
WILLIAMS, David, un o bregethwyr cyntaf y Trefnyddion Calfinaidd, oedd enedigol o ran uchaf plwyf Llaurhystud. Gelwid ef weithiau " Dafydd William y gof." Dechreuodd bregethu pan yn lled ieuanc. Yr oedd yn un o'r rhai a anfonodd y Parch. Dan. Rowland i ymweled â'r Gogledd i blanu achos y Methodistiaid. Bu hefyd ym Morganwg a manau ereill. Bu iddo amryw blant, y rhai a ddaethant yn dra enwog.
WILLIAMS, DAVID, oedd fab henaf y Parch. John Williams, athraw Ysgol Ystrad Meirig, a pheriglor Nantmel. Yr oedd yn gydymaith o Goleg Wadham, Rhydychain. Bu Mr. Williams am ryw amser yn athraw Ysgol Ramadegol Ystrad Meirig. Yr oedd yn ysgolor enwog ac yn llenor dysgedig. Yr oedd yn gurad parhäus Llanfihangel Helygen, Maesyfed, ac Ystrad Fflur. Bu farw Gor. 9, 1823, yn 38 oed. Claddwyd ef yn Ystrad Meirig, a cheir ar ei fedd yr Englyn a ganlyn :-
"Williams o addysg wiwlon, — bri ydoedd,
A brawd gwych i'r tlodion;
Goleu ei ddeall, diwall don,
A goleu oedd ei galon."
WILLIAMS, David (Iwan), o Benbontbren, ger, Llanbedr, oedd enedigol o'r ardal hòno. Cafodd ysgol dda; ac yr oedd yntau yn wr talentog iawn, ac yn ddysgwr godidog. Ymunodd â'r Bedyddwyr pan yn weddol ieuanc, a daeth yn bregethwr. Bu am gryn amser yn cadw ysgol gyda llwyddiant a chlod mawr. Yr oedd Mr. Williams yn ddyn o ddyfnder synwyr, ac o chwaeth neillduol at wir brydyddiaeth; ac yr oedd wedi astudio llawer o brydyddiaeth cenedloedd ereill. Mae rhai o'i ganiadau mor gysson â natur ag unrhyw gerddi yn ein hiaith ni; ond ni hoffai Iwan fesurau caethion farddoniaeth, er ei fod yn eu deall. Bu yn beirniada barddoniaeth gwahanol feirdd, yn neillduol Dewi Wyn o Eifion, yn Seren Gomer, gyda llawer