Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/252

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iawn o fanylrwydd a gerwindeb, nes peri i'r bardd hwnw frochi yn erwin, gan gyfansoddi cywydd goganllyd ofnadwy iddo, o'r enw "Cywydd yr Iwan," yr hwn sydd i'w weled ym Mlodau Arfon. Mae yr ymddyddan rhwng "Iwan yn ei gystudd a Daniel Ddu" yn rhyfeddol o farddonol; ac y mae trymder meddwl y bardd, wrth weled dim yn y byd hwn i'w gysuro, yn effeithiol iawn. Bu farw yn 1823, yn 28 oed.

"Waeled a saled is ser — yw beroes!
Mae'n bwriad yn ofer;
I bridd-dy 'r aeth (och, brudd-der)
Iwan bach a'i awen ber.

"Unllais cydgedais ag ef,—yn ddiau,
Ar ddaiar; ac unllef
Y canwo mewn cu wiwnef,
I enw ein Ior yn y nef.

"Yn y ddaiar, gar, y gorwedd — yn dawel,
Nes delo'r awr ryfedd
Y cyfyd uwch y ceufedd
Duw Ior ei had i dir hedd."
DANIEL DDU.

WILLIAMS, EVAN, oedd fab David Williams, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a grybwyllwyd yn barod. Cafodd Evan Williams ei ddwyn i fyny dan yr enwog Edward Richard yn Ystrad Meirig. Sefydlodd yn l lyfrwerthwr a chyhoeddwr llyfrau yn Llundain. Yr ydys yn ddyledus iddo ef a'i frawd am ddwyn allan lawer o lyfrau rhagorol a gwerthfawr perthynol i lenyddiaeth Cymru; megys Geiriadur y Dr. W. O. Pughe, a llyfrau ereill o'í waith, ac ereill o dan olygiaeth yr awdwr enwog hwnw. Efe a gyhoeddodd y llyfr gwerthfawr y Cambrian Register. Collodd lawer o arian wrth ddwyn allan rai o'r llyfrau hyn, yn neillduol y Geiriadur, i'r hwn o blegid yr orgraff y bu yn rhaid bathu llythyrenau newyddion o'r Cambrian Depicta, gan E. Pugh, gyda llawer o arluniau. Bu Mr. Williams farw yn Heol Penton, Llundain, Medi, 1835, yn 86 oed, wedi bod dros ddeugain mlynedd yn llyfrwerthwr & chyhoeddydd Cymreig yn y Strand, ac o'r rhai hyny bymtheg mlynedd ar hugain yn aelod gweithgar o'r Ysgol Gymreig sydd eto mewn bri.