WILLIAMS, ISAAC, a aned yn Ty'n y Wern, Llanrhystud, le yr oedd ei deidiau wedi bod yn trigfanu am oesoedd. Cafodd ei ddwyn i fyny yn offeiriad, ac efe & gafodd fywoliaeth Llanbadarn Fawr. Symmudodd wedi hyny i Lanrhystud, a bu yn beriglor y plwyf am 47 mlynedd. Yr oedd yn wr o synwyr cryf, ac o fywyd boneddigaidd ym mhob ystyr o'r gair. Safai yn uchel iawn yng ngolwg esgobion Ty Ddewi, a bu yn un o gaplapiaid teuluol Dr. Murray. Yr oedd yn gynghorwr tadol. i holl offeiriaid y wlad, ac yr oedd yn dannorth Uwch Aeron. Cyfrifid ef y darllenwr goreu yn yr holl wlad. Bu i Mr. Williams dri o feibion. Dygodd William ei gynfab i fyny yn feddyg, a bu yn ymarfer yng Nghaerfyrddin: dygodd Isaac Lloyd i fyny yn Gynghorwr yn Lincoln's Inn: aeth David, y trydydd, i Ysgol Ystrad Meirig, ac wedi hyny i Goleg Oriel, a bu yn gweinidogaethu yn Lloegr. Mab iddo yw'r Esgob Williams o Quebec. Priododd Ann ei ferch â'r Parch. Lewis Evans, periglor Llanfihangel Geneu'r Glyn; a mab iddynt yw y Parch. Lewis Evans, B.A., Ystrad Meirig. Priododd merch arall â Mr. Gilbertson o'r Cefn Gwyn; a mab iddynt yw y Parch. Lewis Gilbertson, isbenrhaith Coleg Iesu, Rhydychain. Bu farw yn 1811, yn 77 oed.
WILLIAMS, ISSAC, B.D., oedd fab ieuengaf y diweddar Isaac Lloyd Williams, Ysw., Ty'n y Wern, un o ynadon Ceredigion, a bar-gyfreithiwr, ac Ann ei wraig, merch henaf a chydetifeddes Matthew Davies, Ysw., Cwm Cynfelyn, yr hwn gynt fu yn uchel-sirydd Ceredigion. Cafodd ei eni tua'r flwyddyn 1803. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow, ac wedi hyny yng Ngholeg y Drindod, Rhydychain, lle yr ennillodd ysgoloriaeth, ac y cymerodd ei raddau. Ennillodd wobr y Cangellydd am brydyddiaeth Lladin, ar y testyn Ars Geologia, yn 1823. Etholwyd ef yn fuan ar ol hyny yn gydymaith o'r coleg, ac a weithredodd fel athraw am lawer o flynyddau, i lawr hyd tua'r flwyddyn 1842; ac ar ol hyny, trigfanodd yn Stinchcombe, ger Dursley, pentref tlws yn y wlad. Bu yn ymgeisydd am y Gadair Farddol (professorship of poetry), ym Mhrifysgol Rhydychain, o gylch y flwyddyn 1842. Bu yn aflwyddiannus,