Ym mysg ei gyfeillion yn Rhydychain yr oedd Keble, Froude, Pusey, Newman, ac ereill. Yr oedd ei iechyd yn wanaidd er ys dros ugain mlynedd, ac felly yn achosi llawer o bryder i'w gyfeillion. Ymddangosodd erthyglau yn y gwahanol newyddiaduron ar ei farwolaeth, ac un dra arbenig yn y Guardian, yn ei osod allan fel ysgrifenydd galluog a Christion diffuant. Er i'w enw fod mewn cyssylltiad ag ysgrifenwyr a dynasant lawer o sylw, eto yr oedd efe ei hunan yn byw mewn awyrgylch dawel a dystaw, ym mhell o ddwndwr plaid, gan ymhyfrydu mewn myfyrdod buddiol o wybodaeth a duwiolfrydedd. Treuliodd oes o ddiwydrwydd mawr. Nid oedd ei feddwl un amser yn segur, ond bob amser yn ymddedwyddu mewn ymrodio ar hyd meusydd cnydfawr duwinyddiaeth a duwioldeb. Er i erthygl ymddangos yn fuan yn y Guardian ar ol ei farwolaeth, ym mis Mai, ymddangosodd eilwaith goffâd parchus o hono ar ddiwedd y flwyddyn. Yr oedd Mr. Williams yn wyr i'r Parch. Isaac Williams, Llanrhystud, yn frawd i'r diweddar Williams, Ysw., Cwm Cynfelyn, a chefnder i'r Gwir Barchedig J. W. Williams, Esgob Quebec; y Parch. Lewis Gilbertson, Coleg Iesu, Rhydychain; a'r Parch. Lewis Evans, B.A., Ystrad Meirig: ac y mae yn un o brif enwogion Ceredigion.
WILLIAMS, JOHN, LL.C., a anwyd yn nhref Llanbedr Pont Stephan, Mawrth 25, 1727. Mae yn debyg mai Ymneilldüwr oedd ei dad, o blegid ni a gawn mai y Parch. Phylip Pugh a fedyddiodd y Doctor Williams. Yr oedd ei dad yn lledrydd cyfrifol yn y lle, ac felly efe a-roddodd i'w fab bob mantais o ysgol dda pau yn ieuanc, a daeth yn fore i gydnabyddiaeth â'r ieithoedd dysgedig. Efe wedi hyny a aeth i Athrofa Henadurol Caerfyrddin, pan yn bodair ar bymtheg oed, i gael ei gymhwyso i fod yn weinidog ymneillduol. Ar ddiwedd ei efrydiaeth, efe a aeth yn gynnorthwywr clasurol i Mr. Howell, yr hwn a gadwai yagol fawr yn Birmingham. Yn 1752, ar gais unfrydol cynnulleidfa o Ymneillduwyr, efe a symmudodd i Stanford, yn swydd Lincoln; ond mewn dymuniad am sefyllfa yn agos i Lundain, efe yn 1755 a ddaeth yn weinidog i gynnulleidfa yn Wockingham, Berks.' Yn ystod ei arosiad