2yma, efe a orphenodd waith at yr hwn yr oedd wedi rhoddi blynyddau o astudiaeth, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1767, dan yr enw A Concordance to the Greek New Testament, with an English Version to each Word, and Critical Notes. Yn y flwyddyn hon, efo a ddaeth yn weinidog i gynnulleifa yn Sydenham, lle y gweinidogaethodd am dros wyth mlynedd ar hugain. Yn 1777, efe a ddewiswyd yn ofalwr llyfrgell Dr. Daniel Williams, yn Red Cross-street, yr hon sefyllfa a'i galluogodd i gyrhaedd y wybodaeth ofynol ar bwnc ag oedd wedi cael llawer o'i astudiaeth, canlyniad o'r hyn a gyhoeddodd dan yr enw A free Inquiry into the Authenticity of the First and Second Chapters of St. Matthew's Gospel; ail argraffiad, 1789. Oddi wrth yr anwadalwch ag sydd yn aml yn cymmeryd lle yn y pentrefydd ger llaw Llundain, yr oedd nifer yr Ymneillduwyr wedi lleihau yn fawr; a chan i rwymysgrif y capel fyned allan yn 1795, efe a roddodd y weinidogaeth i fyny, ac a dreuliodd y gweddill o'i oes yn Islington. Ar amser ei farwolaeth, yr oedd yn agos gorphen argraffu gwaith prin M. P. Cheilomeus, o'r enw Graeco-Barbara Novi Testamenti, &c. Heb law yr hyn a grybwyllwyd, yr oedd yn awdwr Critical Dissertations on Isaiah, 7th chapter, 13th and 16th verses; Thoughts on the Origin of Language; An address on the Protestant Dissenting Minister's Application to Parliament, yn 1773; Remarks on a Treatise by William Bell, D.D., on the Divine Mission of John the Baptist and Jesus Christ, &c.; An Inquiry into the Truth of the Tradition concerning the Discovery of America by Prince Madog, son of Owen Gwynedd, about 1170, in two parts; ac amryw bregethau. Amcan y Dr. Williams ydoedd cadarnhau y dybiaeth am fynediad Madog ab Owain i America. Yr oedd y Dr. Williams yn ddyn o alluoedd a dysg; ac efe a fu yn ffyddlawn yn eu defnyddio er lles y byd.
WILLIAMS, JOHN, rheithor Nantmel, swydd Faesyfed, Ac athraw dilynol yr enwog Edward Richard yn Ystrad Meirig, ydoedd fab David Williams, y pregethwr Calfinaidd, yr hwn a grybwyllasom yn barod. Ymddengys i John Williams gael ei eni yn agos i Mabwys. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ysgol Ystrad Meirig, o dan addysg Edward